成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Criced Cymraeg yng Ngerddi Soffia
Mai 2004
Cychwynnodd tymor newydd Criced Morgannwg yn s诺n rhywbeth mwy na' lledr ar helyg' diolch i fenter newydd rhwng Bwrdd yr iaith Gymraeg a Criced Morgannwg.


Mae'r Gymraeg i'w chlywed ym mhencadlys y t卯m yng Ngherddi Soffia eleni fel rhan o ymrwymiad parhaol Morgannwg i hybu a datblygu'r defnydd o'r Gymraeg.

O ddiwrnod agoriadol y tymor criced newydd (Gwener Ebrill 16eg) mae pob cyhoeddiad swyddogol a wneir yn ystod g锚mau cartref Morgannwg yn ddwyieithog o hyn ymlaen. I ddathlu'r ffaith, roedd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr laith Cymraeg yn gyfrifol am leisio'r cyhoeddiadau ei hunan - yn fyw - ar ddiwrnod cyntaf y tymor.

Yn siarad cyn iddo gyhoeddi am y tro cyntaf, dywedodd Rhodri Williams: "Dwi yn hynod o falch bod Morgannwg wedi cymryd yr awenau fan hyn ac yn cyflwyno'r Gymraeg i holl agweddau'r clwb o arwyddion dwyieithog newydd i lenyddiaeth Gymraeg a hefyd y cyhoeddiadau dyddiol.

"Mae dyfodol yr iaith yn dibynnu i raddau helaeth ar y defnydd a wneir ohoni mewn amgylchiadau anffurfiol a sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae Morgannwg wedi cydnabod hynny ac wedi ymateb i'r alwad drwy gyflwyno'r cyhoeddiadau yn ddwyieithog.

"Dwi wedi bod yn cefnogi criced gydol fy mywyd a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at agor y batio yn y fenter ddiweddara 'ma. F'unig obaith yw na fydd y glaw'n rhoi terfyn ar y chwarae: fe allai hynny roi terfyn ar fy ngeiriau innau hefyd!

"Morgannwg yw cartref criced yng Nghymru. Rwy'n hynod o falch bod yr iaith Gymraeg wedi ymgartrefu yma bellach. Dwi'n mawr obeithio y bydd chwaraeon eraill yn dilyn esiampl dda Morgannwg."

Pwysleisiodd Paul Russell, Cadeirydd Clwb Criced Morgannwg, bwysigrwydd y Gymraeg i Griced Morgannwg: "Mae Criced Morgannwg yn falch o fedru hyrwyddo'r Gymraeg a'i chyflwyno mewn dull cymdeithasol i holl gefnogwyr Morgannwg. Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng ngweithgareddau Morgannwg yn rhan annatod o'r moderneiddio sydd ar waith yma."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy