成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Maxwell Evans Maxwell Evans
Medi 2002
Bu marwolaeth sydyn y Parchedig Maxwell Evans yn sioc mawr iawn i'w deulu ac i bob un o'i ffrindiau drwy'r wlad.
Go anaml y byddai neb yn cyfeirio ato fel Y Parchedig er ei fod yn fawr ei barch ym mhob man.

Max oedd e i bawb ac mae hynny'n dweud llawer am ei bersonoliaeth ddiymhongar a chyfeillgar.

Roedd Max yn 79 oed pan fu farw ond feddyliodd e erioed y byddai'n well iddo ddechrau hamddena a gorffwyso. Os byddai Max yn gweld angen yn rhywle byddai gyda'r cyntaf i gynnig cymorth.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd ac ar 么l cyfnod yn y llynges adeg y rhyfel, ac yna graddio yn y Brifysgol, bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr yn y Ferwig.

Daeth yn 么l i Gaerdydd wedyn a chafodd ei benodi yn athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd ei ymlyniad i Rieni dros Addysg Gymraeg.

Ar 么l ei gyfnod fel athro, cafodd ei benodi yn Ymgynghorydd Iaith i Sir Forgannwg ac yna'n Uwch Ymgynghorydd ym Morgannwg Ganol. Roedd yn fwrlwm o syniadau a bu llwyddiant y cyrsiau Cymraeg i oedolion yn Nhy Dyffryn yn gyfrifol am symbylu nifer fawr o ddysgwyr i ddod yn rhugl yn yr iaith.

Ymddeolodd yn gynnar o fyd addysg gan iddo deimlo galwad gref i wneud cyfraniad i ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru. Yn wir, bu ei deyrngarwch a'i ffyddlondeb i Eglwys Dewi Sant fel darllenwr-lleyg a llawer o swyddi eraill yn ddiarhebol.

Cyflawnodd y cwrs hyfforddi a chafodd ei sefydlu yn Ficer y Plwyf yn Llanfihangel-ar-Arth a Phencader. Gellid dadlau mai hwn oedd ei gyfnod mwyaf llwyddiannus. Llwyddodd i greu adfywiad yn y ddwy eglwys a'i gryfder mawr oedd ei gyfraniad cymdeithasol i holl fywyd yr ardal.

Dychwelodd i Benarth lle daliodd ati i weithio'n ddygn yn Eglwys Dewi Sant. Yn ogystal 芒 hyn byddai'n dysgu dosbarthiadau Cymraeg, roedd yn weithgar iawn dros y Lleng Brydeinig ym Mhenarth ac roedd yn ysgrifennydd ymddiriedolwyr Ty'r Cymry am dros 30 o flynyddoedd.

Bydd Cymru yn dlotach o golli cymeriad mor lliwgar a diddorol ac estynnir y cydymdeimlad llwyraf i Sian, Iwan a Dafydd a'u teuluoedd.

Erthygl gan John Albert Evans




0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy