成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Geran Hughes ar ddiwedd y r芒s Ironman y Swistir
Medi 2003
Dechreuodd ras yr Ironman yn 1978 yn Hawaii pan drefnodd dyn o'r enw John Collins ras i weld pwy oedd y mwyaf heini ym myd nofio, beicio a rhedeg.

Dim ond 15 cystadleuydd ddechreuodd y ras gan nofio 2.4 milltir, beicio 112 milltir a rhedeg marathon 26.2 milltir. Clywais am y gystadleuaeth hon pan oeddwn yn blentyn. Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ar 27 Gorffennaf 2003, roeddwn yn sefyll ar lan Llyn Zurich ynghyd 芒 1400 o gystadleuwyr o 39 gwlad ar fin cystadlu yn Ironman y Swistir.

7 o'r gloch y bore - dechrau gyda nofio. Mae nofio yng nghanol cymaint o gystadleuwyr yn brofiad unigryw - bron fel gornest paffio! Allan o'r dwr mewn 1 awr 18 munud, ac ymlaen 芒'r cit beicio. Tri lap 37 milltir om blaen. Oes 'na fynyddoedd yn y Swistir?

Ar 么l beicio am 7 awr 22 munud a dringo chwe mynydd lle roedd angen rhaffau i gyrraedd y copa, cyrhaeddais ran olaf y ras - dim ond marathon!! Wrth ddechrau rhedeg dechreuodd hi lawio. Hyfryd. Cyfle i oerir corff. Yn anffodus, nid glaw m芒n ond monswn a barhaodd am weddill y diwrnod. Os nad oedd y pellter yn mynd i goncro'r corff efallai byddair tywydd yn gwneud hynny. Tair lap o ddinas Zurich oedd taith y marathon gyda miloedd o drigolion y ddinas wedi dod i gefnogi'r cystadleuwyr.

Gyda'r glaw yn dal i ddisgyn ac wrth redeg ar lan y llyn gwelais yr arwydd 400m i fynd. Roedd emosiwn y foment yn anhygoel. Roedd hi ar fin troi 8.25 y nos!! Ac mi oeddwn yn dal yn fyw... wel, bron 芒 bod!! Ar 么l 13 awr 24 munud a 57 eiliad, troediais dros y llinell gan ddal baner Cymru uwch fy mhen. Aelod newydd o glwb yr Ironman!

Un o'r rhesymau am ymgymryd a menter yr Ironman oedd i godi arian i Ward B5, sef yr Uned Arennau, yn Ysbytyr Brifysgol yng Nghaerdydd. Ym mis Ebrill bu'r ysbyty'n gyfrifol am drawsblannu un o arennau fy mam, Delun Callow, im brawd, Meuryn Hughes. Teimlaf fod hyn yn fodd priodol i ddiolch i'r ysbyty.

Geran Hughes

[Os hoffech gyfrannu at Gronfa Ward B5 mae croeso i chi godi'r ff么n i Geran neu ddanfon siec i'r cyfeiriad hwn: Geran Hughes, 21 Heathbrook, Llanisien, Caerdydd CFl4 5FA. Ff么n: 029 2019 8355.]


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy