成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
C么r Canna C么r Canna'n cipio'r aur - ddwywaith!
Mehefin 2007
Tasech chi wedi gyrru trwy Dreganna am 2 o'r gloch fore Mercher 11 Ebrill mi fyddech chi wedi gweld golygfa ddifyr iawn.

Dros ddeg ar hugain o ferched gyda chesys o bob lliw a llun yn disgwyl am fws i'w cludo i faes awyr Gatwick er mwyn hedfan i 糯yl Gorawl yn Verona, i gystadlu a mwynhau dros wyliau'r Pasg.

Cynhaliwyd y seremoni a'r gyngerdd agoriadol yn theatr grand hyfryd y Teatro Filannonico ynghanol Verona. Roedd 35 c么r yn cystadlu eleni ac yn cynrychioli gwledydd mor amrywiol 芒 Croatia, UDA, Iwerddon, yr Eidal, yr Almaen a Chymru wrth gwrs! Cawsom gyngerdd agoriadol gan Gymdeithas Gorawl Euridice o Bologna a'r Rockin Accordions o Leipzig.

Roedd hanner y corau yn cystadlu ddydd Iau Ebrill l2fed, tra roedd gweddill y corau yn perfformio ddydd Gwener. 11.30 fore Gwener oedd ein hamser cystadlu ni. Roedd gennym ni 20 munud i gyflwyno rhaglen - rhaid oedd cyflwyno rhaglen wrthgyferbyniol, gan gynnwys enghreifftiau o gerddoriaeth o wahanol gyfnodau, canu digyfeiliant ac mi roedd yna gyfle wrth gwrs i ganu mewn sawl iaith - mi roedd yna bedair iaith yn ein dewis raglen ni. Roedd trefn y gystadleuaeth yn reit od - dim cynulleidfa heblaw'r 7 beirniad, o'r Eidal, yr Almaen, Hwngari a'r Weriniaeth Siec.

Y noson honno, fe aethom am Villafranca, i gynnal cyngerdd gyda 4 c么r arall - c么r o feibion Alpinaidd o'r Eidal, gr诺p gwerin o'r Eidal, c么r o ferched o Croatia a ch么r gospel o'r Unol Daleithiau. Fe gawsom ni dderbyniad da iawn, pawb di gwirioni, a'r arweinydd yn ein galw'n 'City Girls' ac yn s么n am John Charles.

Fore Sadwrn roedd yr holl gorau'n ymgynnull yn y theatr yn Verona ar gyfer y seremoni wobrwyo/gloi. Yr holl arweinyddion ar y llwyfan, neb yn gwybod beth oedd y dyfarniad. Pawb yn disgwyl yn eiddgar felly. Dosbarthwyd y cwpanau Efydd, yna'r cwpanau Arian. Dim s么n amdanom ni. Does bosib... Dechreuwyd dosbarthu'r cwpanau Aur. Parti Merched o Groatia, C么r Cymysg o Iwerddon, C么r Plant o Wlad Belg, C么r Prifysgol Halle, a CH脭R MERCHED CANNA!!!. Wel, s么n am weiddi! A chwpan aur drwm i'w chario n么l i Gymru.

Cafodd pob c么r a enillodd yr aur gyfle i ganu yn y theatr grand gyda chynulleidfa o tua 1,500. Profiad bythgofiadwy. Yna, pawb yn gorymdeithio i'r Arena enwog yn Verona lle roedd yr holl gorau yn cyd-ganu "Va Pensiero" gan Verdi dan arweiniad un o'r beirniad, profiad arall i'w drysori.

Cafwyd hen ddathlu y noson honno ac roedden ni'n dal i ganu drannoeth pan gafwyd cais i ni aros ar yr awyren yn Gatwick er mwyn canu i'r peilot! Merched blinedig iawn a gyrhaeddodd n么l i Gaerdydd nos Sul. Ond merched hapus a bodlon iawn oedd wedi mwynhau eu hunain yn arw. Rhaid diolch yn fawr i Delyth am ei holl waith, i Kim y gyfeilyddes ac i Mari ac Enid a fu'n gwneud y trefniadau.

Chafodd y c么r fawr o gyfle i orffwys ar 么l dychwelyd adre gan fod gofyn paratoi ar gyfer G诺yl Gelfyddydau Perfformio Cheltenham ar 12 Mai. Roedden ni'n cystadlu mewn 3 cystadleuaeth - un i gorau o unrhyw gyfuniad o leisiau lle roedd gofyn canu 2 ddarn cyferbyniol, cystadleuaeth a oedd yn gofyn am 2 g芒n grefyddol a chystadleuaeth y C么r Merched.

Llwyddwyd i ennill pob cystadleuaeth a chael 3 chwpan i ddod adref gyda ni. Ond nid dyna'r diwedd. Roedd y c么r gorau o blith y corau dynion a'r corau merched yn ennill cwpan aur hardd gwerth 拢20,000 - y Cheltenham Gold Cup! Ac ie, dyfarnwyd y cwpan i G么r Canna!

  • Buddugoliaeth Cor 'n Wal
  • Mwy o Gaerdydd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy