Dathlu'r deg, dyna a wnaed ddechrau Ebrill
gan fod y Parchedig Evan Morgan yn fugail
arnom ni ers deng mlynedd. Cyflwynodd Mr
Eifion Hopwood anrheg i Evan ar ran pawb
ym Methel i ddiolch iddo am ei ofal o'r
eglwys a hefyd mi gyflwynodd iddo englyn a
anfonwyd gan y Prifardd Mererid Hopwood.
Am roi ar ein llwyfan yn anrheg - Ei air,
Rhoi'i stori a'i ddameg,
Rhoi'i weddi ym mhob brawddeg,
Gw锚l dy deulu'n dathlu'r deg.
 |