成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Mr Michael James, Cadeirydd CFfl Sir G芒r yn cyflwyno'r Gadair I Elin Davies Cystadlu Brwd yng Nghapel Iwan.
Tachwedd 2009
Hanes Eisteddfod Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Gar ym mis Hydref.

Cynhaliwyd Eisteddfod Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir G芒r ar y 9fed, 16eg a'r 17eg o Hydref yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, a braf oedd gweld y Neuadd yn llawn o fwrlwm y cystadlu.

Bu'r Eisteddfod yn un lwyddiannus iawn i aelodau Capel Iwan unwaith eto eleni, a braint oedd gweld un o aelodau y clwb yn ennill Y Gadair am Gerdd o dan y thema "Mynydd".

Elfin Davies, Cadeiryddes y clwb oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Y Gadair.

Dyma'r ail dro i Elfin i ennill. Rhoddwyd y Gadair eleni gan Michael James, Cadeirydd y Sir.

Bu holl aelodau y clwb yn llwyddiannus yn yr amryw gystadlaethau a llongyfarchiadau mawr i bawb a gamodd i'r llwyfan, ac yn benodol i'r rhai a gynrychiolodd y clwb am y tro cyntaf.

Dywedodd Elfin, "Mae ein diolch ni fel clwb i'r holl aelodau, hyfforddwyr a rhieni yn enfawr.

"Rydym wedi bod yn ffodus i groesawu nifer o aelodau newydd eleni, a braf oedd eu gweld yn camu i'r llwyfan ac yn cystadlu hyd eithaf eu gall u."

Llongyfarchiadau calonnog i'r holl aelodau am eu gwaith.

Dyma rhai o ganlyniadau y cystadlaethau bu aelodau Capel Iwan yn rhan ohonynt: -
Cystadleuaeth y Meim (3ydd) Ensemble Ileisiol (3ydd)
Llefaru unigol - Hana Medi (3ydd) Llefaru unigol - Dion Davies (4ydd) Or (4ydd) Sgets (4ydd)
Adrodd Digri - Elfin Davies (1af) Cerdd - Elfin Davies (1af) Ymson - Ynyr James (1af) Grip Clocsio (laf)
Bydd dathliadau 60 mlynedd y Clwb yn parhau gyda'r Ginio Dathlu ar yr 28ain o Dachwedd yn Ngwesty'r Castell Malgwyn.

Mae tocynnau yn 拢20 a gellir eu prynu oddi wrth Rhian Jones.

Cysyllltwch a Rhian ar 07812 755 454.

Y Cynghorydd John Davies, Cwmbetws fydd y siaradwr gwadd.

Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd i ymuno a ni yn y Clwb yng Nghapel Iwan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy