成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Heledd a'i brawd Mabon wedi bod am dro gyda'u tadcu Cofio Tadcu
Mai 2005
Heledd ap Gwynfor yn cofio'r dyn preifat y tu n么l i'r gwleidydd cyhoeddus ac yn cymryd cysur yn ei hatgofion o'i thadcu Gwynfor Evans.
"Mae gan bawb atgofion melys am eu tadcu. Rydw i bellach, wedi colli fy nau dadcu ac yn hiraethu'n fawr amdanynt, ond hefyd yn cymryd cysur yn fy atgofion ohonynt. Bu farw Tadcu Talar Wen, (fel yr adnabyddais i mi a 'mrawd - Gwynfor Evans) wedi rhai blynyddoedd o anhwylder a llesgedd. Ond er mor fregus a gwan oedd ei gorff, roedd ei feddwl mor effro ag erioed hyd at y diwedd.

Byddwn yn aml yn ei gwmni yn sgwrsio a thrafod am bopeth dan haul, ni fyddai pall ar ei holi ynghylch hynt a helynt fy mywyd. Roedd yn arbennig o hoff o gerddoriaeth, gwrandawsai ar jas, clasurol, gwerin ac emynau wrth gwrs. Fe oedd yn chwarae'r piano yn Nhalar Wen adeg y Nadolig pan y byddwn fel teulu yn dod ynghyd ar ddydd San Steffan, a phan ddeallodd bod Rhys, fy nghariad, yn chwarae mewn band, roedd am gael gwrando ar gryno ddisg ohonynt, er i mi esbonio eu bod yn chwarae roc uchel! "Dwi'n hoff iawn ar bob math o gerddoriaeth" dywedodd.

Wrth gwrs, roedd Tadcu yn ffigwr cyhoeddus, doedd dim dianc o hyn, gan lle'r bynnag yr awn yn ei gwmni byddai pobol yn ddiwah芒n yn dod draw i gael sgwrs neu i ysgwyd llaw ag ef. Ond ni chofiaf i ef fel 'Gwynfor, y gwleidydd', ni allaf i ei gofio yn Aelod Seneddol hyd yn oed! Cofiaf ef yn gwisgo lan adeg Nadolig, gyda dwy fal诺n lawr ei frest a wig am ei ben yn rhannu'r anrhegion Nadolig rhwng yr holl 诺yrion (na, dim fel Si么n Corn, ond Anti Jini!); a chofiaf ef yn sgipio tu fas y t欧 ym Mhancarreg heb raff sgipio, er mwyn cadw'n heini.

Fe gofiaf hefyd linell o gerdd Y Gododdin a ddysgodd i mi pan yn 12 oed: "Gw欧r a aeth Gatraeth oedd ffraeth eu llu" er mwyn fy nghyflwyno i'r gynghanedd ac i Aneirin! Credai fod darllen a bod yn ymwybodol o hanes ein gwlad yn bwysig - dengys ei ddylanwad yn y ffaith i bron bob un o'i wyrion astudio hanes hyd safon Lefel A.

Roedd Tadcu yn darllen llawer - iawn! Darllenai lyfrau hanes a gwleidyddiaeth gan fwyaf, fel y gallwch ddychmygu, ond darllenai farddoniaeth hefyd, ac fe'i hysgrifenai! Ni welwch chi mo'i farddoniaeth mewn unrhyw lyfrau, ond yn hytrach mewn cardiau penblwydd at aelodau o'i deulu. Dyma ddetholiad o'i gerddi' at un o'i wyrion yn dathlu ei phymthegfed penblwydd:

Pe cawn fy newis o bob blodyn pert sy'n bod,
Y rhosyn coch, neu las y llwyn neu bansi,
O'r blodau prydferth oll a'm llona' is y rhod,
Angharad fach yw'r floden gipia'm ffansi.'

Dengys ei linellau ei fod yn feistr ar yr odl!

Fe w锚l cenedl gyfan golled ar ei 么l. Bydd colled fawr ar ei 么l yn sir G芒r. Ond ni fydd colled mwy na'r golled ar yr aelwyd. Y mae Nain fu'n gefn iddo am dros drigain mlynedd, yn gweld ei eisiau'n ofnadwy, ac felly ninnau i gyd, ei deulu. Fel a nodais ynghynt, cymerwn gysur yn yr atgofion ohono, ac yn y sicrwydd ei fod mewn cwmni llawer gwell.

Erthygl gan Heledd ap Gwynfor


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy