成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Fleur Moody Merched y Garthen
Hydref 2004
Mae'r golofn hon yn gyfle i un o ferched Dyffryn Teifi ddweud ei dweud bob mis. Bydd rhywun gwahanol yn cyfrannu ym mhob rhifyn o'r Garthen, yn s么n am rhywbeth mae hi am fwrw ei bol yn ei gylch, neu ei rannu 芒 chi.

Y mis hwn, tro Fleur Moody, Drefach Felindre yw hi. Cyn gadael Lloegr am Gymru yn '82 penderfynais ddysgu Cymraeg. Rwy wedi hala amser yn Ffrainc, De Affrica a Japan ac o'n i'n si诺r o Iwyddo, ond heb ddisgwyl pa mor hir y byddai'n cymryd!

Ro'n i'n 39 oed, gyda phedwar plentyn yn Ysgol Penboyr, lawr yr heol; gwraig t欧 gyda gardd fawr ac yn hoff o anifeiliaid. Roedd y cymdogion bron i gyd yn Gymry Cymraeg (ond dim nawr). Dechreuais eistedd yn nh欧 Ani Mai, mam efeilliaid fel ydw i -i wrando arni'n siarad 芒'i ffrindiau. Ges i broblem ofnadwy i ddweud "Blwyddyn Newydd Dda". Gofynnais i'r prifathro pam yr oedd hi'n amhosibl i ffeindio rhai geiriau yn y Geiriadur Mawr. Esboniodd i mi am dreigliadau O diar!

Teithiodd Mam Ian i ofalu am y plant am wythnos yn haf '83, i mi fynd bob dydd i Brifysgol Aberystwyth ar Gwrs Carlam. Chwaraeon ni dap Dan Lyn James yn y car ar y ffordd. Pan es i fewn i'r swyddfa bost wedyn, clywais eiriau clir yn lle gobldigwc. Ond doedd dim dosbarth Ileol i ni ddilyn y pryd hwnnw.

Er bod ein plant wedi profi Cymraeg yn yr ysgol, gwrthodon nhw siarad yr iaith 芒 ni o gwbl. Dros y blynyddoedd rwy i wedi mynychu sawl dosbarth - yn y pentref, Prifysgol Llambed, Coleg y Drindod, wedyn wythnos wych yn Nant Gwrtheym y Ilynedd. Rwy'n derbyn mod i wedi cael yr amser, yr arian a'r cludiany -problemau i sawl un arall rwy'n siwr.

Er bod dosbarthiadau'n angenrheidiol, mae'n rhaid clywed a siarad yn gyson. Heb siarad, does dim modd tsiecio os yw'r ddealltwriaeth yn gywir. Rwy wedi mynychu gweithgareddau Cymraeg am flynyddoedd heb ddweud Ilawer, wedyn ymunom -芒 CYD Castell Newydd Emlyn. Ro'n ni'n cwrdd yn fisol - 3 neu 4 Cymry Cymraeg a tua 7 neu 8 dysgwr, gyda rhaglen hwylus.

Nawr, mae Menter laith yn help mawr - gan gynnal grwpiau fel Paned a Phapur a gweithgareddau diddorol. Dechreuodd gr诺p CYD newydd yn Llandysul y Ilynedd, felly mae mwy a mwy o gyfleoedd anffurfiol ar gael.

Ar 么l dychwelyd o'r cwrs cyntaf yn Aberystwyth, ro'n i'n siomedig iawn i sylweddoli cymaint o ddiffyg gwybodaeth ysgrifenedig roedd i'w gweld o gwmpas y lle, ro'n i'n edrych am gliwiau i'm dysgu neu fy atgoffa o'r geiriau. Erbyn hyn mae mwy ar gael - ond dim digon eto.

Fel dysgwr yng Nghymru fi'n teimlo bod hawl i mi siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond mae 'na sawl un sy'n anghyfforddus gan fy mod i ddim yn berffaith rhugl. Mae'n werth hala tamaid bach o amser i ddeall ein gilydd, on'd yw hi?

wy'n dal i fynychu dosbarth Pontio bore dydd Gwener yn ystod y tymor, rwy'n falch i gael y cyfle. Rwy i hefyd yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n mynnu cadw at y Gymraeg i ddysgwyr fel fi. Does 'na ddim byd i danseilio'r hyder fel troi i'r iaith arall!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy