成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Cynthia Davies o lanfihangel ar Arth Llanbed - Moroco - Llandysul
Rhagfyr 2004
Pan gaeodd ffatri ddillad Dewhurst yn Llanbedr Pont Steffan, roedd yn gyfnod helbulus i lawer o'r gweithwyr lleol.

Symudodd y ffatri i ddinas Tangiers yn Moroco, a dim ond un o'r gweithwyr gafodd gynnig mynd gyda'r ffatri, sef Cynthia Davies o Lanfihangel ar Arth.Roedd Cynthia wedi bod yn gweithio yn ffatri Dewhurst, Llambed am 31 mlynedd, ac er iddi gael cynnig i symud i Aberteifi ac Abertawe gyda'r gwaith, roedd hi'n ddigon bodlon ei byd yn gweithio'n Llambed. Cam tipyn mwy oedd yr un i ogledd Affrica!

"Roedd pawb yn gweud wrtha' i am fynd" meddai Cynthia, "y byddwn i'n cael profiadau gwahanol, a'i fod yn gyfle rhy dda i'w golli. Mynd amdani wnes i wedyn, a chael cwpwl o fisoedd mewn gwesty yn Tangiers i gael gweld os o'n i'n hapus, a wedyn ffeindio fflat ac arwyddo'r contract gwaith."

Treuliodd Cynthia dair mlynedd yno yn dysgu dau berson sut i reoli llawr lle roedd 450 o bobol yn gweithio ar beiriannau. Gwnaeth lu o ffrindiau ymysg y bobol oedd yn gweithio yno, ac wedi dychwelyd i Landysul erbyn hyn, mae'n gweld eu heisiau yn fawr, a gweld eisiau'r haul hefyd wrth gwrs!

"Mae gen i atgofion da iawn" meddai Cynthia, "mae'r Morocans yn bobol hyfryd, ac roedd y bobol o'n i'n eu dysgu ishe dysgu, oedd yn gwneud fy ngwaith i lot yn haws."

Saesneg fu'r iaith rhyngddynt bob dydd, ond fe wnaeth Cynthia ddysgu rhywfaint o'r iaith frodorol hefyd, sef Arabeg, ac mae hi hyd yn oed yn canfod ei hunan heddiw yn dweud Shukran (diolch) i ambell yrrwr tacsi!

Erbyn hyn, mae Cynthia wedi dychwelyd n么l i ddyffryn Teifi i fyw a gweithio yma. Mae hi wedi agor ei siop ei hun, sef 'Nodwydde a Phinnau', ar stryd fawr Llandysul ers dechrau Tachwedd, ac mae'n hapus ei byd yn cael bod yn fos ar ei hun! Derbyniodd Cynthia lawer o gyngor yngl欧n ag agor ei busnes ei hun oddi wrth ffrind da iddi, Helena Gregson, sydd hefyd 芒 siop wn茂o ei hun sef 'Pwythau' yn Llambed. Bu'n edrych arni'n gweithio ac fe wnaeth hefyd dderbyn llawer o help a chyngor am grantiau a gwneud cynllun busnes wrth 'Llygad Busnes', Antur Teifi.

Bellach, mae'r siop ar agor, a Cynthia'n hapus iawn yn gwneud newidiadau i ddillad pobol yr ardal. "Mae pawb yn wahanol" meddai Cynthia, "felly ma' digon o waith i'w gael - y rhan fwyaf o bobol ishe llacio eu dillad!" Os felly, mae'n si诺r y bydd hi'n brysur iawn ar 么l y Nadolig hwn, gyda llawer mwy o ddillad am gael eu llacio eto! I gysylltu 芒 Cynthia Davies yn 'Nodwydde a Phinnau', ffoniwch 07971684754.

Heledd ap Gwynfor
Prosiect Papurau Bro.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy