成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Cae o flodau Hen Arferion
Mawrth 2007
Canu am galennig, mynd am bicnic yn y mynyddoedd a cherdded i bob man - dyna sut oedd bywyd plant yng nghefn gwlad Cymru yn y 1950au yn 么l Carys Briddon.
Enillodd Carys Briddon o Dre'r Dd么l, Ceredigion, y gystadleuaeth 'erthygl ar gyfer papur bro' yn Eisteddfod Llanfihangel ar Arth. Dyma'r erthygl fuddugol.

Fel yr 芒 person yn hyn, mae'n sylwi ar y pethau sydd wedi newid ers pan oedd yn blentyn. Cofiaf am y pethau yr arferid eu gwneud pan oeddwn i'n blentyn yn ystod y 1950au, ac erbyn hyn, mae nifer o'r hen arferion bron a darfod yn y gymdogaeth, a rhai yn bendant wedi darfod.

Cerdded i bob man
Credaf mai'r arferiad sydd yn bendant wedi dod i ben yw'r arfer o gerdded i bob man. Roeddwn i'n byw mewn pentref bach ddiarffordd yng ngogledd Ceredigion lle nad oedd gwasanaeth bws, felly roedd yn rhaid i ni gerdded i bob man. Er nad oedd y daith yn bell, roeddwn wrth fy modd yn cerdded i'r ysgol bob dydd a chael y cyfle i sylwi ar y wlad a'r bywyd gwyllt o'm cwmpas. Cofiaf yn dda fel y cerddai fy ffrind a minnau i'r pentref agosaf, dair milltir i ffwrdd, bob bore Sadwrn i gael gwersi piano, ac yna cerdded adref eto yn y prynhawn. Anaml y deuai car heibio a chynnig reid i ni, ond roeddem yn hapus i dderbyn reid gan unrhyw un pe caem y cynnig, hyd yn oed os nad oeddem yn adnabod y gyrrwr.

Roeddem ni'r plant wrth ein bodd yn cerdded i'r mynyddoedd am bicnic yn yr haf. Ni wyddai ein rhieni i ble y crwydrem - dim ond i ni fod yn ofalus gwyddent ein bod yn hollol saff. Gwyddem am bob math o lecynnau prydferth yn yr ardal, a chofiaf am un yn arbennig lle'r oeddem yn mynd i hel blodau'r briallu yn y gwanwyn - roedd y cwm hwnnw yn felyn gan liw'r blodau, a ninnau yn rhyfeddu at eu prydferthwch flwyddyn ar 么l blwyddyn. Yn ystod gwyliau'r Pasg, pan oedd y tywydd yn dechrau cynhesu a bywyd newydd i'w weld ar y tir, crwydro i'r wlad a dysgu am fyd natur wrth weld y gwahanol anifeiliaid, adar, coed a phlanhigion yn eu cynefin naturiol.

Sylwai'r bobol ers talwm ar arwyddion natur ac arferion anifeiliaid i gael rhagolygon y tywydd, felly gallent drefnu eu gwaith yn 么l yr hyn a welant. Rhoddai fy nhad cu goel fawr ar y gwahanol arwyddion hyn i ragweld y tywydd, gan syllu ar arwyddion y s锚r sydd o'u cwmpas, gan fod y papurau newydd, y radio a'r teledu yn darogan beth fydd y tywydd am y dyddiau nesaf. Wrth golli'r ddawn yma i sylwi ar fyd natur, collwyd un o'r hen arferion mwyaf diddorol a feddai trigolion cefn gwlad.

Wrth grwydro'r un llwybrau bob gwanwyn, gwyddem yn iawn ble i ddod o hyd i nythod adar yn y gwrychoedd a'r coed, gan ddod i wybod nythod pa adar oeddynt wrth adnabod maint a lliw'r wyau. Yn anffodus bu i sawl aderyn bach dorri' i galon wedi i rai o'r bechgyn ddwyn wy o'i nyth i'w hychwanegu at eu casgliad. Ym mis Awst roedd criw ohonom, yn blant ac yn rhieni, yn cerdded i'r goedwig i hel llus duon. Cyrhaeddem adref y noson honno gyda digon o lus duon i wneud sawl tarten, a phob un ohonom wedi blino'n l芒n ar 么l cerdded cymaint yn ystod y dydd, a'n crwyn wedi llosgi yn yr haul. Ond drannoeth roeddem wrth ein bodd yn bwyta'r darten llus duon a fyddai mam wedi'i choginio.

Cofiaf yn dda fel yr ymunai fy ffrind a minnau gyda'r bechgyn wrth fynd i n么l 'concyrs' yn yr Hydref. Dim ond un coeden castanwydden oedd yn agos i'r pentref, a hynny tu 么l i'r plas. Dwy chwaer oedrannus oedd yn byw yno, a ninnau yn ceisio bod yn dawel rhag iddynt ein clywed yn tresmasu ar eu tir. Rwy'n si诺r pe baem yn gofyn, byddai'r ddwy ond yn rhy falch i roi'r 'concyrs' i ni, ond nid oedd 'dwyn' rhywbeth yn ychwanegu at wefr y weithred?

Fel roedd yr hydref a'r gaeaf yn agosau, byddai mam a minnau yn mynd am dro i'r coed i hel brigau ar gyfer achub t芒n y bore. Rwy'n cofio fel y byddai mam wrth ei bodd pan fyddai un cornel o'r sied yn llawn o frigau, a hithau'n gwybod felly fod ganddi ddigon o goed bach i ddal trwy'r gaeaf. Yr adeg honno nid oedd peiriant golchi ganddi, a bob bore dydd Llun byddai'n cynnau t芒n o dan y pair mawr yn y sied er mwyn berwi'r d诺r i olchi dillad. Felly roedd cerdded i'r goedwig i n么l digon o goed t芒n dros y gaeaf yn hanfodol i'n cadw'n gynnes ac i ferwi d诺r y pair.

Yn yr hydref, byddai'r ffermwyr yn cerdded y defaid i'r mart, a dyna olygfa oedd honno. Byddai sawl gyrr o ddefaid yn cerdded drwy'r pentref y bore hwnnw, pob un yn ei amser ei hun - a phawb yn gofalu cau g芒t yr ardd rhag i'r defaid grwydro a bwyta'r blodau a'r llysiau!

Canu calennig
Mae'r arferiad o fynd i ganu am galennig hefyd bron a darfod mewn llawer ardal, ond roeddem ni wrth ein bodd, gan godi'n gynnar ar ddydd Calan er mwyn mynd i ganu. Ar y diwrnod yma byddai'r bechgyn a'r merched yn mynd ar wah芒n, gan gerdded o amgylch y tai yn y pentref yn gyntaf. Wedyn roedd yn ras rhyngddynt i gyrraedd rhai o'r ffermydd yn gyntaf, gan fod rhai ffermwyr yn rhoi mwy o arian i'r rhai cyntaf a ddeuai i'r fferm i ganu am galennig. Mewn ambell i d欧 dim ond ceiniog neu ddwy a gawsem am ganu, ond rhoddai eraill dair neu chwe cheiniog inni. Gan fod y ffermydd yn y pentref mor wasgaredig, mae'n anodd credu ein bod yn eu cyrraedd i gyd cyn hanner dydd. Byddem yn anelu at gyrraedd y fferm olaf cyn hanner dydd a ninnau bron a llwgu erbyn hynny, ond gwyddem y byddem yn cael darn o gacen neu rhywbeth i'w fwyta yna bob tro. Ar 么l yr holl gerdded, roedd yn braf medru mynd i'r siop yn y prynhawn i brynu melysion gyda pheth o'r arian.

Wrth gofnodi'r teithiau cerdded penodol yna a wnaed gennyf pan yn blentyn, gwelir fod newid mawr wedi bod yng nghefn gwlad. Teimlaf nad yw plant y dyddiau yma yn medru rhannu'r pleser a gawsom ni wrth gerdded i bob man. Mewn oes pan fo plant yn cael eu cludo i bob man yn y car, ac yn eistedd i wylio'r teledu gyda'r nos, mae'n amlwg nad ydynt yn cael digon o ymarfer corff. Ni ellir dweud hynny amdanom ni hanner can mlynedd yn 么l!

Carys Briddon


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy