成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Y gr诺p Cymdeithas Gefeillio Llandysul a'r fro
Gorffennaf 04
Eleni daeth 64 o Lydawyr o Blogoneg i dreulio penwythnos arall yn ein plith, ac i ddathlu pymtheg mlynedd o'r gefeillio.

Braf iawn oedd gweld wynebau newydd ynghanol y wynebau cyfarwydd.

Treuliwyd y noson gyntaf yng nghartrefi'r teuluoedd unigol yn adnewyddu rhai perthnasoedd, a chychwyn ar gyfeillgarwch newydd sbon i eraill. Diolch yn fawr iawn i bawb am y gefnogaeth a'r lletygarwch hael, ac i'r trefnydd Wenna Bevan-Jones am ei gwaith trylwyr arferol. Bore dydd Gwener, bu'r Llydawyr yn ymweld 芒 safle newydd Gwasg Gomer a'r Ffatri Wafflau. Cafwyd cyfle hefyd i gerdded yn hamddenol ar lan afon Teifi i weld gwaith ieuenctid Llandysul a Plogonoeg, yn ystod y gwersyll gwaith Haf 1999. Diolch i Gareth Bryant a'i ffrindiau am drefnu arddangosfa can诺io hynod o adloniadol.

Trefnwyd cinio i'r Llydawyr yng Nghanolfan Ieuenctid Tysul, a hefydd sgwrs gan Allan Shiers am Delynau Teifi, a chafwyd datganiadau swynol ar y delyn gan Julia Bettles. Yn y prynhawn, aethpwyd ymlaen i ymweld 芒'r Amgueddfa Wl芒n, Drefach Felindre lle y bu Non Mitchell yn ein tywys o amgylch yr Amgueddfa ac yn arddangos rhai o'r offer gwehyddu. Bu Keith hefyd yn dangos sut roedd yr olwyn yn gweithio, a chyfle, felly, i rai ohonom ni o'r ardal yn ogystal 芒'r Llydawyr i ddysgu rhywbeth newydd! Diolch yn fawr i'r ddau am sicrhau ymweliad diddorol ac addysgiadol. Yn y nos aeth teuluoedd o'r un pentref allan i gymdeithasu gyda'i gilydd mewn bwytai lleol.

Bore Sadwrn, bu i bawb ymgynnull yn y Porth, lle cafwyd sgwrs gan Gareth loan o Gwmni laith Cyf. Ar 么l lluniaeth yng Ngwesty'r Porth, aeth nifer o'r Llydawyr i wario eu Ewros yng Nghaerfyrddin, gyda Wendy fach a Heledd ap yn tour guides iddynt (druan a nhw!), tra aeth y gweddill ar daith gerdded gyda Mary ac Eileen.

Yna nos Sadwrn, i barhau gyda'r cyfeillachu, dechreuodd y noson gyda seremoni a groesawu'n swyddogol, pan siaradodd cadeiryddion y ddwy gymdeithas gefeillio - MoeIwen Gwyndaf a Jean-Luc Renevot. Cyflwynodd Jean-Luc rodd o logo y ddwy gymdeithas, wedi ei gerfio mewn pren ar si芒p pl芒t i gymdeithas gefeillio Llandysul a'r fro. Cafwyd cyfarchion gan Mr. Terry Griffiths, cadeirydd cyngor cymuned Llandysul, a gyflwynodd tarian fach mewn pren gyda enw'r cyngor arni, i Jean-Luc.

Cynhaliwyd bwffe yn y neuadd a oedd yn wledd i'r llygad a'r bola, ac roedd y bwydydd amrywiol yn ddigon i fwydo'r pum mil! Diolch i Anne a Georgia am drefnu'r bwyd, ac i John am drefnu'r bar. Roedd y byrddau yn hynod a atyniadol a diolch i Mary a drethodd y blodau amrywiol ar eu cyfer.

Diolch hefyd i 'Fedwen Tentage' am roi benthyg byrddau ac i 'Brecon Carreg' a Llanilyr am eu rhodd o dd诺r pate]. Ar 么l y gwledda, bu dawnsio brwd ac egniol i'r gr诺p Jac y Do ac i'r pibau Llydewig - golygfa braf fel arfer, oedd gweld trigolion y ddau bentref yn cyd-ddawnsio'n fyrlymus!

Roedd pawb yn amlwg wrth eu boddau, ac yn 么l y traddodiad erbyn hyn, cafwyd noson hwyr arall!

Diolch i'r canlynol am gyfieithu yn ystod yr ymweliad - Katell, Moelwyn, Huw, Philip a Rhidian. Merci Bras! Fore Sul treuliwyd y dydd yng nghwmni'r teuluoedd, ac fel arfer ym maes parcio Llandysul, collwyd sawl deigryn wrth ffarwelio 芒'n cyfoedion Llydewig. Ond, ar yr un pryd, roedd y parabl iach yn cylchdroi o gwmpas brwdfrydedd ein hymweliad ni yn 2005! Diolch i bawb yn ddiwah芒n am sicrhau penwythnos dymunol a llwyddiannus tu hwnt, gyda diolch arbennig i Wenna am ei hell waith paratoi - doedd dim ishe'r hell ofid 'na yn y diwedd?!!

Ymlaen am y tro nesaf!

Os oes unrhyw un am ymaelodi 芒'r gymdeithas gefeillio cysylltwch 芒'r ysgrifenyddes Nest James nen 芒'r drysoryddes Eileen Curry ar 01559 362253.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy