成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Brenhines y Ffermwyr Ifanc
Chwefror 2005
Diana Davies o Croes Lan yw Prif Weithredwr Mudiad y Ffermwr Ifanc drwy Gymru. Dyma hi i esbonio beth yw ei gwaith yn gwmws.

Wrth edrych n么l tua 12 mlynedd pan ymunais a Chlwb Pontsian, ychydig iawn a feddylies y byddem yn y swydd dwi ynddi heddiw, Prif Weithredwr Mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Iesgob, ma' hwnna'n codi ofn arna'i weithiau! Na, o ddifri', mae'n swydd arbennig o dda sy'n allweddol i ddatblygiad y Mudiad yng Nghymru a dwi'n mwynhau mas draw.

Fy r么l yn bennaf yw gofalu am ddatblygiad strategol y Mudiad sy'n cynnwys datblygu rhaglenni gwaith, polisiau, cydweithio rhwng Swyddfa CFfI Cymru a'r Siroedd a dod o hyd i gyllid i ariannu'r Mudiad. Mae'n dipyn o gyfrifoldeb ond dwi'n cael cefnogaeth gref gan d卯m Swyddogion CFfI Cymru, a'r 4 o staff rwy'n cydweithio gyda nhw yn Llanelwedd.

Penderfyniad anodd iawn ydoedd ymgeisio am y swydd gan ro'n i'n hapus dros ben yn fy ngwaith fel Swyddog Datblygu CFfI Ceredigion. Swydd a oedd 'just up my street' fel dywed y Sais.

Cefais bron i dair blynedd arbennig yn gweithio gyda'r aelodau yn ogystal 芒'r swyddogion a'r staff wrth gwrs. Mae teulu clos wedi datblygu o fewn y Mudiad yng Ngheredigion a braf iawn yw gweld hynny.

Felly pam ymgeisio am y swydd te? Wel a dweud y gwir dwi'n credu mai'r meddylfryd o 'Os na wnei di dreial byddi byth yn gwybod' oedd hi yn y diwedd. Ac os rwy'n hollol onest, do'n i ddim yn meddwl y bydden i'n llwyddiannus gan na fues i Brifysgol na chael gradd.

Ond sioc fawr ydoedd pan glywais fy mod wedi cael y swydd, a galla' i ddweud ei fod wedi bod yn fwy o sioc i'm teulu a'm ffrindiau gan nad oedd neb yn gwybod fy mod yn ymgeisio yn y lle cyntaf! Does dim amheuaeth gen i taw'r profiad a'r sgiliau a wnes eu datblygu pan yn aelod o'r mudiad wnaeth gyfrannu'n helaeth i mi gael y swydd.

Dwi wedi dechrau arni nawr ers diwedd mis Tachwedd ac yn setlo mewn yn dda iawn. Oherwydd natur y swydd, mae pob dydd wedi bod yn wahanol iawn hyd yn hyn gan ddatgelu cyfrifoldeb ac elfen newydd.

Dwi hefyd wedi symud t欧 sydd wedi bod yn newid mawr yn fy mywyd personol. Mae byw yn Ystrad Mynach, Morgannwg yn wahanol iawn i Groeslan mae'n rhaid dweud, ond dwi'n dechrau dod i arfer a byw mewn lle tipyn mwy trefol na'r hyn dwi wedi arfer ag ef erioed.

Cofiwch, er mod i'n dechrau dod i arfer 芒 bywyd trefol, dwi'n disgwyl ymlaen yn barod at ddychwelyd i Groeslan (pan gaf ganiat芒d cynllunio i adeiladu'r cartref dwi wedi bod yn disgwyl ei wneud am bron i dair blynedd)!

Mae'n wir bod pawb sydd wedi bod yn aelod neu'n gysylltiedig 芒'r Mudiad ar hyd y blynyddoedd yn gwybod cryfderau'r CFfI a'r gwaith arbennig sy'n cymryd lle. Mae gwaith y Mudiad yn amhrisiadwy i ddatblygiad personol pobl ifanc, ffyniant cymunedau, ymwybyddiaeth diwylliannol a gwaith elusennol.

Pl卯s, pl卯s, pl卯s, a wnewch chi ledu'r gair am y gwaith da hwn er mwyn denu mwy o aelodau. Mae 'na ganran uchel o bobol ifanc cefn gwlad yn colli allan gan eu bod nhw ddim yn ymwybodol o'r cyfleoedd sy'n bosib trwy fod yn aelod o'r Mudiad.

Dyna fi wedi cael fy mhregeth trosodd am gyfnod eto! Cyn terfynu, hoffem ddiolch i glwb Pontsian am y cyfleoedd a gefais pan yn aelod yno. Dim yn aml y cewch chi'r cyfle i ddiolch yn gyhoeddus am bethau chi fel arfer yn cymryd yn ganiataol. Mae'r arweiniad a gefais gan arweinyddion y Clwb wedi'n rhoi i ar ben y ffordd a diolch yn fawr iawn i chi am hynny.

Mae'n well mynd i wneud bach o waith dwi'n credu, felly pob hwyl am nawr, a chofiwch os rydych rhwng 10 a 26 oed, mae 'na groeso i chi yn eich Clwb Ffermwyr Ifanc lleol!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy