成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Aelodau o Glwb Hanes Llanfihangel ar Arth Clwb Hanes Llanfihangel Ar Arth
Tachwedd 2005
Clwb Hanes Llanfihangel Ar Arth yn cynnal arddangosfa o hen luniau ac yn cynllunio map hanesyddol o'r plwyf.

Ar nos Wener 21ain o Hydref, lansiwyd map hanesyddol plwyf Llanfihangel ar Arth yn neuadd yr ysgol. Daeth tua 50 0 bobol yngh欧d i weld arddangosfa hen luniau'r plwyf a baratowyd gan aelodau'r clwb hanes yn ogystal 芒'r map a gynlluniwyd gan y clwb hanes lleol.

Croesawyd pawb gan Calvin Griffiths a John Davies a gwnaeth y ddau esbonio sut aeth aelodau'r clwb ati i ddewis a dethol pynciau ar gyfer y map sy'n gofnod o'n gorffennol cyfoethog. Dangoswyd rhai o'r cynlluniau cynnar a darllenodd Calvin y gerdd isod a gyfansoddwyd yn arbennig ganddo i'w rhoi ar y map:

Plwyf Llanfihangel

Plwyf ffrwythlon o hanes
Trwy'r oesoedd, a gw锚l
Y bryniau a'r cymoedd
A'u creithiau sy'n f锚l.
Castelli, brenhinoedd
A'u llwybrau sy'n fyw.
Y brwydrau a'r grefydd
Mae'r wefr yn ein byw.

Mae'r map yn cynnwys 29 o lefydd pwysig yn hanes y plwyf ac mae eglurh芒d wrth ochr sy'n rhoi tipyn bach o hanes am bob un o'r llefydd hynny. Mae yna hefyd hanes rhai enwogion y plwyf gan gynnwys Gwrtheyrn, arweinydd gydag enw drwg o'r burned ganrif; yr hen 诺r o Bencader; Stephen Hughes a ddechreuodd eglwys ymneilltuol ym Mhencader yn 1650; Christmas Evans, un o'r pregethwyr grymusaf ei oes; Evan Stephans a arweiniodd c么r y Mormoniaid yn eu prif ganolfan a Nantlais Williams a gyfansoddodd barddoniaeth ac emynau yn y 19eg ganrif.

Maint A1 yw'r map ac mae'r testun yn y Gymraeg. Cynlluniwyd y map hwn gan Glwb Hanes Lleol Llanfihangel ar Arth a thynwyd y map gan Gareth Coles ac argraffwyd gan Wasg Gomer. Ariannwyd costau cynhyrchu'r map -an grant Cronfa Arian Bach o Filltir Sgw芒r, Sir Gar ac rydym fel clwb yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am wneud hynny.

Cafwyd lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y noson a chafodd pawb gyfle i sgwrsio ac edrych dros yr arddangosfeydd. Roedd hi'n noson gymdeithasol hyfryd ac hoffem ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth i'r achlysur arbennig hwn. Os oes diddordeb gennych mewn prynu map, mae copiau ar werth am 拢3 yr un, cysylltwch nail ai 芒 Gerald Coles ar 01559 384987 neu Margaret Bowen ar 01559 362215. Mae hefyd groeso mawr i chi ymunoo 芒 ni yn y Clwb Hanes sy'n cwrdd bob pythefnos, am ragor o fanylion cysylltwch a Gerald neu Margaret.


Cyfrannwch

Maldwyn Stephens o Gaerfyrddin
Oedd tadcu yn cefnder cyntaf i Evan Stephens, arweinydd cor Tabernacle y mormoniaid. Cafodd tadcu ei eni yn Y Lodge, Gwernmacwyth, lle wiithiodd fel teilwr cyn symyd i Bronwydd, ger Caerfyrddin
Thu Aug 6 20:56:39 2009


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy