成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Owain Evans yn holi rhai o bobl y Tymbl gyda bws 成人快手 Cymru Stori chaiff mo'i hadrodd ar y Post Cynta'...
Ebrill 2006
Dyddiadur dydd Owain Evans sy'n gweithio fel gohebydd gyda'r 成人快手 yn y gorllewin.

Dydd Mawrth 17eg Ionawr 2006, 12.3Oyh

Wrth i fi sgrifennu hwn dwi'n styc wrth ochr y ffordd ychydig filltiroedd y tu allan i Rydaman. Y clutch sy' 'di mynd, a mynd wnaeth e fyd! Wasges i e fewn i newid g锚r a ddaeth e ddim n么l mas. Felly be wna i nawr? Dwi eisoes 'di cael gafael ar rifau garejys lleol a dwi 'di ffonio rhyw Sais o'r enw Dave yn Rhydaman i ddod mas.

Mae'n si诺r fod hyn yn ddigwyddiad digon cyffredin i ohebwyr sy'n gyrru o gwmpas ar drywydd stori bob dydd. I ddweud y gwir dwi'n synnu nad yw e 'di digwydd cyn hyn a finne'n teithio cymaint bob dydd. Dwi'n gorfod gwneud ers cymeryd drosodd fel gohebydd Gorllewin Cymru'r 成人快手 tra bod Anwen Francis ar gyfnod mamolaeth.

13.00yh

Mae s诺n tic toc y golau sy'n rhybuddio ceir eraill mod i 'di torri lawr yn dechrau mynd ar fy nerfau nawr a dyw'r ffaith fod angen t欧 bach arna' i ddim yn helpu. Mae 'na gloddiau bob ochr i'r ffordd ond 芒 hithau'n ganol lonawr does dim digon o ddail ar y perthi i fi fedru cuddio a dwi ddim eisiau cael fy arestio!

13.40yh

Ble ddiawl mae'r boi 'ma? Mond o Rydaman mae'n rhaid iddo fe ddod. Oc锚, digon teg, dwi ddim yn mynd i unman ar hast, ond o'n i'n disgwyl help bach ynghynt na hyn! Mae'r fenyw ar ben arall y ff么n newydd ddweud ei fod e ar ei ffordd felly mond disgwyl alla' i wneud. O'n i fod yng Ngwauncaegurwen erbyn un, wedyn n么l i Drefach Felindre ganol prynhawn ac yna yn Llechryd tua pump. Dyw hi ddim yn argoeli'n dda. Dwi 'di neud yswiriant yn ddiweddar. Roedd y llall yn cynnwys cymorth tasen i'n torri lawr. O'n i 'di bwriadu ymuno 芒'r AA neu'r RAC bore 'ma and ches i ddim cyfle.

14.00yh

Mae'r fenyw o'r garej newydd ffonio: "I can't find him anywhere so I'm sending my son and his friend". lawn medde fi, 'mond gobeithio fod y ddau gyw-fecanic 'ma'n gwbod be' maen nhw'n ei wneud.

14.1Oyh

Allen i gicio fy hun... a' garej arall canllath lawr yr hewl!

14.20yh

Erbyn hyn dw i yn y garej yn Rhydaman. Mae'r lle'n drewi o g诺n ac olew. Yn ogystal 芒 thrwsio ceir mae'n nhw'n delio 芒 sgrap. Gobeithio na ddaw hi i hynny. Mae nhw 'di cael gafael ar weiren clutch newydd. Ddyle fe fod gyda nhw o fewn awr. Dwi 'di cael sandwich felly dwi'n hapusach.

14.45yh

Dwi newydd s么n wrth berchennog y garej beth yw ngwaith i. Dwi ddim yn gwybod p'un ai fydd hynny'n fantais neu'n anfantais. Ar un llaw fe allen nhw wneud jobyn da am bris rhesymol, ar y llaw arall mae'n bosibl yn byddan nhw'n codi mwy arna' i achos mod i'n gweithio i'r 成人快手. Ddylen i 'di dweud mod i'n gweithio i Watchdog neu X-Ray.

15.00yh

Dwi'n eistedd mewn caffi yn Rhydaman nawr yn yfed coffi llaeth. Mae pawb yn siarad Saesneg ond mae'n nhwn swnio fel tasen nhw'n gallu siarad Cymraeg yn iawn.

15.40yh

Coffi llaeth arall, yn yr un myg. Mae dyn bach newydd fod mewn yn cwyno ei fod e 'di gwario ei arian i gyd yn siopa a'n trio cael te am ddim. Chafodd e ddim lwc and fel Cardi da dwi'n edmygu ei hyfrdra fe.

16.30yh

N么l yn y garej a'r car yn barod diolch byth. Dwi 'di setlo a'n barod i'w throi hi am adre. Wela' i ddim mo' Gwauncaegurwen heno mwy na Drefach Felindre na Llechryd. Mae 'na alwadau ff么n wedi eu gwneud i ganslo ac mae'r swyddfa yng Nghaerdydd yn gwbod na fydd yna eitem ar gyfer y rhaglen bore fory. Trueni, achos roedd hi'n stori dda 'fyd.

Mae Owain Evans yn gweithio fel gohebydd gyda'r 成人快手 yn y gorllewin. Os oes stori gyda chi cysylltwch ag e ar 01267 225728.

  • Cliciwch yma i weld lluniau o Owain Evans yn gohebu yn y gorllewin


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy