成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Keith Evans Uchel Siryf o fro'r 'Garthen'
Mehefin 2003
Bachgen bach o'r fro, erioed, erioed, yw ef. Yn blentyn aeth i ysgol Gynradd Tregroes, yna ysgol Ramadeg Llandysul. Erbyn hyn mae yn wr busnes dra llwyddiannus, ac yn gyfarwyddwr o Fedwen Tentage yn Nhrefach Felindre, ynghyd 芒 bod yn gynghorwr parchus ac yn dal llu o swyddi cyfrifol eraill.

Mae yn Uchel Siryf ar Ddyfed, ac yn ail mewn protocol i'r Arglwydd Raglaw, Arglwydd John Morris, ac ef hefyd a chysylltiadau agos iawn a bro'r "Garthen". Cafodd Keith ei apwyntio yn Uchel Siryf yn Neuadd y Cyngor, Aberaeron, ar yr 11eg Ebrill eleni. Rhaid oedd cael Ynad Heddwch yn dyst i'r broses, a hwn oedd John Davies, Prysor, ffrind iddo, eto o fro'r "Garthen". Un arall yn bresennol oedd Ieuan Jones, Dolgrug, ei gyn-brifathro yn yr ysgol gynradd. Mae gwreiddiau Keith yn bwysig iddo. Bu i'r Arglwydd John Morris hefyd gymryd rhan yn y broses, ac fel rhan o'r seremoni yn ei longyfarch yn wresog.

Y caplan am y flwyddyn yw ei weinidog, y Parchedig Kevin Davies. Nid yw yn orfodol i gael gwasanaeth eglwysig, ond dewis y capelwr selog yma fydd gwneud hynny yn y dyfodol agos. Dewisodd Keith gymryd y Ilw yn ddwyieithog gan roi'r Gymraeg yn gyntaf.

Enwebwyd Keith er cydnabod yr oriau o waith gwirfoddol, amhrisiadwy y mae eisoes wedi rhoi i'w fro ac i'r gymuned. Ni fydd Keith yn cael dim tal am y flwyddyn bwysig yma. Yn wir, bu rhaid iddo dalu am y wisg arbennig, a hon yn costio cryn dipyn.

Ein llongyfarchiadau mawr iddo ef, ei briod Eirlys a'r teulu i gyd. Eto, mae Keith yn mynnu mae nid ef yw'r cyntaf o'r teulu i ddal y swydd ond bod yna un arall wedi gwneud hynny ddim mor bell yn 么l. Mae'r hanes yn nes ymlaen. Gyda llaw ni fydd yr Uchel Siryf yn gwerthu'r siwt ddrud ymhen y flwyddyn. Dim o gwbwl. Mae ganddo wyr bach o'r enw Steffan, a bydd dadcu a mamgu yn cadw'r wisg yn ddiogel i Steffan. Efallai bydd arno angen y wisg rhyw ddiwrnod. le, pwy a wyr? Diolch i'r Uchel Siryf am ddod 芒'r fath anrhydedd i fro'r "Garthen".

Olive Carnpden


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy