Mae hyn o ddiddordeb i ddarllenwyr "Y Garthen" gan fod yr arweinyddes ddawnus yn dod o'r fro, sef Sioned James, gynt o Landysul ond bellach o Gaerdydd. Do, daeth C么rdydd yn gyntaf gyda beirniadaeth glodwiw, a'r arweinyddes ifanc yn derbyn cymeradwyaeth y beirniaid. Sioned ffurfiodd y c么r o ieuenctid yma tua dwy flynedd yn 么l. I aelodau C么rdydd mae nos Iau yn noson ymarfer a chymdeithasau, ynghanol dinas cosmopolitaidd Caerdydd. Yn y darlun mae Keith Jones, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg y 成人快手, a Beti George o Radio Cymru yn cyflwyno y tlws i Sioned. Beti George oedd yn cyflwyno'r noson ac mae hithau hefyd o'r cylch. Llongyfarchiadau mawr i C么rdydd. Lwc dda i'r dyfodol.
 |