成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Hen atgofion Hen Atgofion
Mehefin 2004
Bu Ysgol Tregroes yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed y llynedd. Diddorol iawn oedd edrych ar yr hen ddyddiadur. Dyma'r un a ddaeth ag atgofion melys - 27ain o Fai 1933


"The school Choir was successful in otbaining the First Prize in the Juvenille section of the National Urdd Eisteddfod at Caerphilly. Mr Ben Evans, Bronant, Conducted. This is the first time for such an honour to come to Cardiganshire." Bum yn aelod o'r C么r hwnnw. Mab i fferm oedd Mr Ben Evans ac yn aelod ffyddlon o Gapel Horeb. Tebyg mai trwy'r Capel y cafodd ei ddiddordeb mewn canu. Enillodd ddwy fedal aur mewn arholiad ysgrythyrol, yn 1921 ef oedd y gorau yn Sir Aberteifi.

Ein cyfeilyddes oedd Mrs Anie Evans, Argoed. Bu'n rhoi gwersi piano a dysgu canu i lawer o blant yr ardal.

Fel arfer, pan byddem yn mynd i gystadlu, byddem yn teithio mewn lori lo ar 么l i Mr Edward Davies Siop Croeslan ei golchi. Byddem yn eistedd ar fwrynnau a rhyw d么 o darpolin dros ei pen. Bu'r c么r yn cystadlu ac ennill yn Llanrhystud a Goginan. Ond 'roedd gwell i ddod. Dyma ni yn mynd ar tr锚n o orsaf Llandysul i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Caerffili.

Cafwyd hwyl fawr, ennill y wobr gyntaf, ac roeddem yn neidio mewn llawenydd a chofleidio ein gilydd pan ddaeth y feirniadaeth. Diwrnod bythgofiadwy ond nid oedd wedi gorffen. Pan ddaeth y tr锚n yn 么l i orsaf Llandysul yn hwyr iawn y noson honno, meddwl gweld y pentref yn w芒g a thawel, pawb yn eu gwely, ond roedd llu o bobol yn yr Orsaf a'r Band Pres hefyd. Dyna groeso calonnog. Gorymdeithio gyda'r band, gan ganu a gweiddi, nes cyrraedd sgw芒r Bradford. Yna, ar y Iawnt wrth ben y sgw芒r roedd Dafydd Lewis, Gomerian, Joshua Jones ac eraill, yn ein llongyfarch. Pawb yn hwylus iawn.

Mae na g么r enwog iawn yn Sir Geredigion heddiw a rhaid ein llongyfarch am fod yn G么r Gorau Cymru. Maent ar y teledu yn aml, a'u lluniau yn y papurau lleol. Yn anffodus nid oes gennym yr un llun o'n C么r bach ni! Ond mae merch Mr Ben Evans, Morfydd, wedi cael gafael ar y Tystysgrif gwreiddiol.

Rhai o'r aelodau oedd gyda fi, sy'n parhau i fyw yn ardal y Garthen, yw Mattie Jones, Marl George, Nansi Williams a Jenny Jones. Hoffem glywed os oes rhagor yn cyd-oesu 芒 mi yn yr ardal.

Carys Fowles, Llandysul


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy