成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Yng nghatref teulu Philip Ymweliad 芒 Sri Lanka
Hydref 2005
Helen Williams yn s么n am ei thaith i Sri Lanka i ymweld 芒 theulu, ar 么l y tsunami yn Rhagfyr 2004.

Wrth inni ddiogi o flaen y teledu ddydd G诺yl San Steffan y llynedd, cawson ni, fel llawer o bobl dros y byd, ein dychryn wrth wylio lluniau erchyll o effaith y tswnami yn Ne Asia.

Ar 么l gweld bod gogledd-ddwyrain Sri Lanka wedi'i effeithio gan y don fawr, dechreuon ni ofidio am dynged un teulu yn benodol.

Roedd teulu estynedig Phillip ac Elizabeth Kumaravelo yn arfer byw o fewn tafliad carreg i'r traeth yn Trincomalee, sef ardal Tamil sydd wedi dioddef dros y degawdau diwethaf o ganlyniad i'r rhyfel ffyrnig rhwng y Teigrod Tamil sy'n brwydro am annibyniaeth, a'r llywodraeth Sinhala.

Ofer fu ein hymdrech i chwilio am newyddion a dechreuon ni feddwl y gwaethaf. O'r diwedd, ar 么l wythnos hir, dyma amlen gyfarwydd yn cyrraedd oddi wrth Phillip. Ei eiriau cyntaf oedd, 'A big wave come on Boxing Day and take our house ...but we have all safe.'

Hanes cythryblus y teulu
Treuliodd fy ng诺r, Digby Bevan ddwy flynedd yn gweithio fel peiriannydd dyfrhau yng Ngogledd Sri Lanka dros 25 mlynedd yn 么l. Ac yntau'n ddyn ifanc sengl, daeth i nabod y teulu'n dda pan oedd Phillip yn cadw'r t欧 iddo. Ers hynny, mae'r ddau wedi llythyru'n fisol ac rydym wedi gallu dilyn hynt a helynt y teulu wrth iddyn nhw golli eu holl eiddo ddwywaith o'r blaen yn y rhyfel a cholli ei gilydd hyd yn oed, pan fu rhaid iddyn nhw ffoi am eu bywydau a chuddio mewn coedwig rhag y fyddin.

Roedd ton ddinistriol y tswnami ond yn un ergyd arall mewn cyfres i'r teulu ddygymod ag ef.

Ymweld 芒 Sri Lanka
Yn hen ddyn erbyn hyn, erfyniodd Phillip arnon ni i ymweld 芒 nhw cyn iddo fe farw. Roedd y penderfyniad i fynd yn un hawdd. Cyn gadael Ffostrasol, buon ni'n ddigon ffodus i godi swm sylweddol o arian, diolch i gydweithiwyr a chyfeillion hael.

Ar 么l cyrraedd, penderfynon ni gyfrannu peth o'r arian at gynnal fferm yn Anandapurna sy'n gartref i blant a phobl ifanc amddifad sydd ag anghenion arbennig. Roedd ymweld 芒'r cartref a gweld y bobl ifanc wrth eu gwaith yn trin cnau coco yn brofiad hapus a thorcalonnus ar yr un pryd.

Does dim gwladwriaeth les werth s么n amdani yn Sri Lanka ac mae'r cartref yn derbyn dim ond 60 ceiniog y mis i ofalu am bob plentyn. Ansicr iawn yw dyfodol y bobl hyn ar 么l iddyn nhw adael a'r nod yw sefydlu cartref tebyg i oedolion.

Ymlaen i Trincomalee a chyfarfod cyntaf emosiynol 芒 Phillip a'i deulu. Gan fod eu t欧 nhw wedi diflannu i'r m么r, roedd e wedi trefnu inni gwrdd yn nh欧 ei ferch a'i g诺r ac o fewn dim, dyma bob aelod o'r teulu mawr a rhes hir o gymdogion yn dod i gwrdd 芒'r bobl hynod o dal o Gymru.

Treulion ni sawl diwrnod yn clywed hanes 'y don fawr' ac ymweld 芒 safle eu t欧 sy bellach yn sgw芒r o goncrit.

Gwelon ni'r eglwys fach ar y traeth lle buon nhw'n canu am 9.05 ar Ragfyr 26 pan ddaeth ton fach ddwy droedfedd o uchder. Ar 么l gweld y m么r yn cilio'n bell o'r traeth, penderfynon nhw redeg rhag ofn. Pan ddaeth yr un fawr, roedd pawb ond mam ifanc a'i phlentyn oedd yn s芒l ac yn dal i gysgu, wedi llwyddo i ddianc. Yn rhyfedd, er gwaetha'r holl ddinistr, mae'r eglwys yn dal i sefyll ac ar y wal mae Phillip wedi gosod cloc i ddiolch am gyfraniad hael trigolion Dyffryn Teifi.

Wedi profi te blasus Ceylon, penderfynon ni deithio i ardal fryniog yr ynys ac ymweld 芒'r planhigfeydd te. Roedd y newid sydyn o dywydd crasboeth y traethau euraidd i niwl, glaw ac oerni'r ucheldir yn brofiad rhyfedd. O fewn oriau o ddringo'r heolydd troellog, caregog, dechreuon ni sylwi ar weithwyr yr ystadau te niferus yn gwisgo cotiau glaw, sgarffiau a hetiau gwl芒n.

Mae'n debyg mai i'r ardal hon yr anfonwyd yr holl ddillad gaeaf a gyfrannwyd yn dilyn y tswnami a golygfa ddigon swreal oedd gweld gweithwyr te oedrannus mewn dillad chwaraeon ffasiynol y gorllewin a hynny mewn lle mor ddiarffordd.

Yn sicr, roedd gweld y menywod yn llenwi'r basgedi trymion ar eu cefnau 芒 dail yn y glaw m芒n am bunt y dydd yn ddigon i ddifethau'r llun rhamantus oedd gen i cyn cyrraedd.

Gweld y difrod
Wedi rhewi yn nhywydd gaeafol Nuwareliya, teithion ni i lawr i wres arfordir de'r ynys gan obeithio cael sawl diwrnod i ymlacio cyn dychwelyd adre. I'r gwrthwyneb, cawson ni ein syfrdanu gan faint y difrod a achoswyd gan y tswnami yn yr ardal hon. Yn wahanol i arfordir dwyreiniol yr ynys, collwyd pentrefi cyfan o bobl o bob oed ac am ddegau o filltiroedd ar hyd yr arfordir mae cannoedd o bebyll a chabanau dros dro yn cartrefu'r rhai a lwyddodd i ddianc.

Dal i aros am ganiat芒d cynllunio a chymorth mae'r bobl hyn ac mae'n ymddangos ei bod yn broses hir a llafurus.

Cyn gadael am Gymru, cawsom wahoddiad i ymweld 芒 theulu arall i gael pryd o fwyd. Profiad difyr oedd treulio noson hamddenol yn gwylio t卯m criced Sri Lanka'n maeddu eu gwrthwynebwyr mewn g锚m gyffrous ar y teledu a phawb yn cynhyrfu'n l芒n. Roedd hi'n teimlo fel bod gartre'n gwylio g锚m rygbi ryngwladol. Braf oedd gweld bod bywyd yn llwyddo i fynd yn ei flaen er gwaetha trychineb mor frawychus.

Erthygl gan Helen Williams


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy