成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Sian Eirian Eisteddfod yr Urdd yn newid
Sian Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfdod yr Urdd, yn s么n am y newid a fu dros y blynyddoedd
  • Cyflwyniad gan Sian Eirian, fore Llun

  • Un o bleserau mawr bod yn rhan o drefnu'r wyl flynyddol yma yw'r cyfle i deithio ledled Cymru a chael croeso twymgalon mewn amrywiaeth mor eang o ardaloedd.

    Ac o bryd i'w gilydd, wrth gwrs, mi fyddwn ni'n dychwelyd i ardal lle cynhaliwyd yr Eisteddfod flynyddoedd neu hyd yn oed ddegawdau yn gynharach.

    Mae bod yma yn Rhuthun yn 2006 wedi peri i mi droi'r chwyddwydr ar rai o Eisteddfodau'r gorffennol yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau - nid lleiaf yr eisteddfod genedlaethol gyntaf erioed i'r Urdd ei chynnal 77 mlynedd yn 么l yng Nghorwen yn 1929.

    Ac mae hi'n bleser o'r mwyaf i mi gyflwyno gwestai arbennig iawn i chi y bore ma, sef Beti Watson, un o gystadleuwyr brwd yr Eisteddfod gyntaf honno, a enillodd yr ail wobr yn y ddrama, fel cynrychiolydd o Adran Betws Gwerfyl Goch. Bydd Beti ar gael ar ol y gynhadledd am ychydig, os byddai rhai ohonoch yn hoffi hel atgofion efo hi.

    Mor wahanol
    Un o'r pethau a'm hysgogodd i feddwl ar hyd y llinellau yma oedd sylweddoli ar ddiwrnod ola'r Eisteddfod y llynedd mor wahanol oedd honno i unrhyw Eisteddfod arall a fum i'n rhan ohoni erioed, a chymaint mae technoleg gyfoes wedi dod yn ran annatod o'r 糯yl.

    Dwn i ddim faint ohonoch chi gafodd y cyfle i fod yn rhan o fwrlwm Eisteddfod Canolfan y Mileniwm - un ai drwy ddod i Gaerdydd, trwy wrando ar y radio neu wylio ar y teledu, neu hyd yn oed drwy ei dilyn ar y we - a dyna i chi ddatblygiad na fyddai neb wedi ei ddarogan hyd yn oed ddeg mlynedd yn 么l.

    Eleni, mae gennym bafiliwn high tech tu hwnt ac mae modd cael canlyniadau yn uniongyrchol fel neges destun i'ch ff么n symudol - y cyfan yn dipyn o wahaniaeth byd o gymharu ag 1929.

    Yr oes wedi newid
    Mae pori drwy raglenni Eisteddfodau Sir Ddinbych y gorffennol yn dangos i ba raddau mae'r oes wedi newid.

  • Yn Hen Golwyn yn 1934, er enghraifft, gallech fod wedi mwynhau clywed cystadleuaeth Unawd ar yr Organ Geg - Gwyr Harlech oedd y darn prawf - neu Barti o chwech yn chwibanu Nos Galan. Ac am eich pris tocyn mynediad o dri swllt chwe cheiniog (plant un swllt), gallech ryfeddu at y gystadleuaeth Ambiwlans hefyd; "Gofynnol i bob cystadleuydd ofalu am ddau rwymyn".

  • Mae'n si诺r mai Eisteddfod 1940 yn Y Rhyl oedd un o'r Eisteddfodau tywylla' erioed, mewn un ffordd - ond ysbrydoledig mewn ffordd arall, efo'i thema Rhaid i Gymru Fyw.

    Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ystod wythnos Dunkerque, ac er bu raid cwtogi ar y cystadlu llwyfan, cafwyd rhaglen lawn o gystadlaethau cartref, un noson o ddram芒u - a chystadlaethau ambiwlans, priodol iawn dan yr amgylchiadau wrth gwrs - ac 14 o gystadlaethau llwyfan ar gyfer part茂on, ar y Prom yn Y Rhyl.

  • Ym 1946, ar 么l pum mlynedd o saib yn ystod y Rhyfel, cynhaliwyd Eisteddfod yng Nghorwen eto.

    Erbyn hyn, roedd y cystadlaethau celf a chrefft yn niferus iawn - ac ar y cyfan yn destunau ymarferol tu hwnt, fel gwau p芒r o socs gwely er enghraifft, er gellid dadlau nad pawb fyddai angen gorchudd dros fysedd piano (sef testun y gystadleuaeth cwiltio).

    Ym 1946 eto, roedd y gystadleuaeth ambiwlans yn ganolbwynt - ar gyfer timau y tro hwn - timau o 4 o ferched neu 5 o fechgyn. Ddylwn i ddim gwneud y sylw, mae'n si诺r, ei bod yn dal i gymryd pump o fechgyn i wneud gwaith pedair o ferched, ond dwi'n mynd i ddeud o beth bynnag!

  • Y tro nesaf i'r Eisteddfod ymweld 芒 Sir Ddinbych oedd 1962 yn nhref Rhuthun, dro. Roedd technoleg wedi cyrraedd y llwyfan erbyn hyn - mae disgrifiad llawn iawn yn y rhaglen o ddau fwrdd a osodwyd y naill ochr i'r llwyfan - un yn dangos rhif y gystadleuaeth a'r siroedd oedd yn cystadlu, ar y chwith, a'r llall yn dangos marciau'r siroedd, ar y dde.

    Roedd system o lampau trydan - tair lamp gyferbyn ag enw pob sir.

    I ddyfynu o'r rhaglen swyddogol: "Pan gyhoeddir dyfarniad y gystadleuaeth, gwelir un lamp yn golau ar gyfer enw'r sir a osodwyd yn gyntaf, dwy lamp yn golau ar gyfer enw'r sir a ddaeth yn ail, a thair lamp yn golau ar gyfer enw'r sir a ddaeth yn drydydd."

    Ond mae'r hysbysfwrdd lampau wedi hen fynd - a'i le wedi'i gymryd bellach gan - sgriniau fideo yn dangos beth sydd ar y llwyfan, neu logo noddwr. Mae'n si诺r y byddai'n well gan rai fod y lampau'n dal yna - ond fel y dwedais ynghynt, mae'r oes wedi newid!

    Beth bynnag, ymlaen ag Eisteddfod Sir Ddinbych 2006 r诺an, gan fynegi'n diolch didwyll i Beti a'i chyfoedion am osod y seiliau cadarn yn 1929 sy wedi galluogi Eisteddfod yr Urdd i fynd o nerth i nerth



  • About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy