|
|
Ysgoloriaeth Dewi Davies Enillydd ysgoloriaeth Dewi Davies yn yr adran gelf a thechnoleg eleni yw Lois Rogers o Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy.
|
|
|
|
Cyflwynir yr ysgoloriaeth hon am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18 a 25 oed.
Mae Lois, sy'n 18 oed, yn byw yn Ninbych ac newydd orffen cyrsiau lefel A mewn celf a dylunio a thecstilau yn Ysgol Glan Clwyd.
Ei gobaith yw y bydd y cymwysterau hyn yn ei galluogi i weithio yn y maes yma yn y dyfodol.
Yn mis Medi mae hi'n mynd i Goleg Ial i wneud cwrs sylfaen celf a dylunio.
"Rydw i'n edrych ymlaen i arbrofi gyda chyfryngau gwahanol ar chael cyfle i
weithio yn fwy annibynnol. Ar 么l coleg rydw i'n gobeithio darganfod fy mhrif sgiliau fel bod modd i mi fynychu cwrs mewn prifysgol sydd yn galluogi i mi ddatblygu fy sgiliau ymhellach yn y dyfodol."
Yn ei hamser rhydd mae Lois yn hoffi cymdeithasu a ffrindiau, braslunio, ffotograffiaeth a cerddoriaeth.
|
|
|
|
|
|