|
|
|
Medal ddrama i Ceri Elen Anorecsia - y cariad dinistriol |
|
|
|
Anorecsia yw cariad dinistriol arwres y ddrama a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2006.
Mae tri chymeriad yn nrama Ceri Elen Morris - Mali, ei chariad Enoc, ac Anwen - ond mewn tro annisgwyl yn y stori datgelir mai anorecsia ei hun yw Enoc y cariad.
Datgelodd Ceri Elen Morris hefyd fod Enoc yn ymuno a'r ddrama o blith y gynulleidfa.
"Yr oeddwn i am wneud hynny er mwyn dangos nad yw neb byth yn gwybod yn lle mae anorecsia yn llechu nac o ble mae'n dod. Mae o'n cwmpas drwy'r amser," meddai.
Dywedodd iddi gael ei sbarduno i gyfansoddi'r ddrama ar 么l gweld dwy raglen ddogfen ar y teledu am anorecsia o bolemia.
Wrth ymchwilio ymhellach i'r pwnc dywedodd iddi gael ei syfrdanu i ddarganfod safleoedd 'pro anorecsia' ar y we sydd yn cynghori pobl ifainc sut i fywbheb fwyd.
"Mae yna gynghorion faint o dd诺r i'w yfed i lenwi eich hun a pha laxatives i'w cymryd - cynghorion uffernol fel'na,"meddai.
"Yr oeddwn i'n meddwl fod rhywbeth ofnadwy yn gyrru y bobl sy'n gwneud y pethau ofnadwy hyn," meddai.
Fe'i dychrynwyd hefyd salwch mor hawdd ei guddio rhag pobl eraill yw anorecsia a dyna arwyddoc芒d pellach i Enoc syddddim yn berson nac yn gariad.
Dywedodd Ceri Elen mai ei gobaith gyda drama o'r fath y byddai yn peri i'r rhai fuasai'n ei gweld sylwi ar arwyddion o'r salwch mewn pobl o'u cwmpas a chynnig help a cheisio deall y sefyllfa.
"Achos maen nhw eisiau help," meddai.
Does yna ddim cynlluniau i chwarae'r ddrama ar lwyfan ar hyn o bryd ond fe fydd yn cael ei haddasu i'w darlledu ar 成人快手 Radio Cymru.
Acfe all hynny fod yn dipyn o her i gynhyrchydd gan fod gwrthgyferbyniad rhwng y corfforol a'r geiriol yn elfennau pwysig yn y gwaith.
Dywedodd Ceri Elen iddi ddechrau ymddiddori yn y ddrama a'r theatr dan ddylanwad ei hathrawes yn Ysgol y creuddyn, Catrin Jones.
Yn ogystal a sgrifennu mae Ceri Elen yn ymddiddori mewn actio hefyd ac yn gobeithio gwneud gyrfa o hynny ond dywedodd nad ysgrifennodd y ddrama hon gyda'r bwriad o chwarae rhan ynddi ei hun.
Y llynedd daeth yn drydydd yn yr un gystadleuaeth ac enillodd wobr gyntaf ddwywaith yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.
|
|
|
|
|
|