|
|
|
Prif seremon茂au Seremoni fawr bob dydd |
|
|
|
Mae prif seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod bob dydd. Dyma restr o seremon茂au'r wythnos:
LLUN - PRIF WOBR GELF, DYLUNIO A THECHNOLEG
Cyflwynir y gwobrau yma mewn defod arbennig yn ystod y seremoni agoriadol. Rhoddir y Fedal Gelf gan Gwmni Ifor Williams.
Meistr y Ddefod yw Nic Parry
LLUN - Y FEDAL LENYDDIAETH
Rhodd Ysgolion Cynradd Penodedig Cymraeg, Sir Ddinbych
Meistr y Ddefod eleni yw Huw Powell Davies a'r beirniaid yw Luned Emyr ac Elfyn Pritchard.
MAWRTH - MEDAL Y DYSGWYR
Rhodd Merched y Wawr, Glyn Maelor ynghyd a 拢200 o gymorth ariannol i loywi iaith yr enillydd, rhoddedig gan y teulu er cof am y diweddar Greville James, Cwmafan. Trwy garedigrwydd teulu y diweddar Carys Lewis Jones bydd cyfle i'r enillwyr fynychu Cwrs iaith. Meistr y Ddefod eleni yw Rosemary Jones a'r beirniaid yw Dr Geraint W Jones a Non ap Emlyn.
MERCHER - Y FEDAL DDRAMA
Rhodd Cymdeithas Ddrama Rhuthun a Changen Rhuthun o Undeb Amaethwyr Cenedlaethol. Meistr y Ddefod eleni yw Llinos Snelson a'r beirniaid yw Manon Eames a Tim Baker.
IAU - DEFOD Y CADEIRIO
Rhodd Ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych. Meistr y Ddefod yw Peredur Lynch a'r beirniaid yw Llion Jones a Si芒n Northley.
NOS IAU - CYFLWYNO MEDAL JOHN A CERIDWEN HUGHES, UWCHALED
I gydnabod cyfraniad gwirfoddol dros ieuenctid yng Nghymru. Cyflwynir medal John a Ceridwen Hughes gan Dewi a Gerallt Hughes.
Meistr y Ddefod yw Gavin Ashcroft, Llywydd yr Urdd.
GWENER - DEFOD Y CORONI
Roddir replica o'r goron eleni gan Glwb Cinio'r Henllys. Meistr y Ddefod yw Catrin Lyall a'r beirniaid yw Bethan Gwanas a Jerry Hunter.
NOS WENER - DEFOD TLWS Y PRIF GYFANSODDWR
Cyflwynir Medal Grace Williams gan G么r Rhuthun a'r Cylch ynghyd 芒 rhodd o 拢100 gan Ymddiriedolaeth Pendyrus.
Meistr y Ddefod fydd Robat Arwyn a'r beirniad yw Eric Jones.
|
|
|
|
|
|