|
|
|
Celf - pob math o symud Celf yn creu cyfle |
|
|
|
Er mai ar gystadlaethau llwyfan y bydd y sylw mwyaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Rhuthun mae'r Urdd wedi addo y bydd yno arddangosfa gelf a chrefft werth chweil hefyd.
Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau yr Urdd, ei bod yn bwysig fod ymgeiswyr yr adran gelf, crefft, dylunio a thechnoleg yn cael eu cydnabod.
Mewn ysgubor Fis Ebrill daeth deunaw o feirniaid ynghyd dros dri diwrnod i roi eu llinyn mesur ar bron i dair mil o eitemau a fu'n fuddugol yn y gwahanol ranbarthau.
Gyda'r holl waith wedi ei osod allan yn un o sguboriau mawrion coleg amaethyddol Llysfasi gwobrwywyd oddeutu mil o weithiau.
Meithrin dawn Wrth groesawu nifer a safon yr ymgeiswyr pwysleisiodd Sian Eirian bwysigrwydd rhoi sylw dyledus i'r gweithgarwch hwn.
"Mae'n bwysig," meddai, "fod pob agwedd o weithgarwch yr Urdd gan gynnwys celf, dylunio a thechnoleg yn cael sylw yn ogystal 芒'r gweithgareddau llwyfan ac yr ydym yn hynod o ffodus o safon y gwaith sydd i'w weld yma heddiw."
Ychwanegodd fod meithrin dawn greadigol cyn bwysiced a meithrin yr holl dalentau eraill a welir yn yr Eisteddfod.
"Mae gan yr Urdd dros 60 o gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg ac ymfalchiwn bod y safon yn arbennig o uchel bob blwyddyn," meddai.
Barn beirniad Daeth canmoliaeth i safon yr ymgeision oddi wrth y dylunydd proffesiynol Cefyn Burgess hefyd.
Wrth drafod y gwaith gyda 成人快手 Cymru'r Byd cyfeiriodd ef at y bwrlwm arbennig a welwyd ymhlith ymgeiswyr o'r ysgolion iau.
"Ond nid cymaint gyda'r ysgolion uwchradd," ychwanegodd. "Efallai bod hynny i'w wneud 芒 phrysurdeb gydag arholiadau ond mae trio cael cystadleuwyr yr oed yma yn dasg anodd," meddai.
Ond ymhlith yr ymgeision a ddaeth i law dywedodd fod "dychymyg a mwynhad i'w weld yn amlwg".
Pwysleisiodd ef bwysigrwydd cael arlunwyr Cymraeg eu hiaith i ymddiddori yn y maes a chroesawodd y duedd bresennol ymhlith Cymry Cymraeg i weithio ym myd celf.
"Mae yna lot o Gymry wedi gadael coleg a gweithio yn y maes," meddai gan ychwanegu fod hwn yn gyfle gwych i bobl ifainc nid yn unig greu gyrfa ond i fod yn hunan gyflogedig ac ymsefydlu yn eu broydd.
'Symud' yw'r nod Bydd yr arddangosfa gelf a chrefft ar Faes y brifwyl yn Rhuthun rhwng Mai 29 a Mehefin 3 gyda'r Fedal Gelf a noddir gan Gwmni Ifor Williams yn cael ei chyflwyno ar y dydd Llun.
"Symud" fydd thema'r arddangosfa gyda hwnnw yn cael ei ddarlunio a'i ddehongli nid yn unig ym maes trafnidiaeth ond yn ei holl elfennau gan gynnwys natur, mecanyddiaeth, y cartref, chwaraeon ac yn y blaen.
Lluniau diwrnod y beirniadu
|
|
|
|
|
|