|
|
|
Cadair goleuni'r machlud i Eurig Machlud bae yn goleuo diflastod |
|
|
|
Daeth bardd cadeiriol Eisteddfod yr urdd eleni yn ail yn yr un gystadleuaeth bedair gwaith yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Hynny yn rhinwedd y ffaith iddo anfon dwy gerdd i'r gystadleuaeth eleni - gan gipio'r ail wobr yn ogystal 芒'r gyntaf.
Yr oedd yn ail hefyd y llynedd ac yn gydradd ail ag ef ei hun pan enillodd ei 'ddisgybl barddol' a'i gyfaill mawr, Hywel Griffiths, y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Ynys M么n 2004..
Ymhlith y rhai a ddaeth i'w longyfarch yn dilyn y seremoni ar lwyfan y Brifwyl yn Rhuthun yr oedd gwneuthurwr y gadair, Ian Pickstock perchennog Bizarre Furniture, Rhuthun, sydd hefyd wedi ei ddewis i wneud cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn ymweld 芒'r Wyddgrug y flwyddyn nesaf.
Am y gadair a enillwyd gan Eurig Salisbury ar y testun Goleuni dywedodd mai ei nod oedd bod yn gyfoes heb fynd dros ben llestri.
"Roeddwn i eisiau i'r gadair fod yn gyfoes ac i apelio at genhedlaeth newydd heb fynd dros y top. Mae cynllun gl芒n, syml iddi ac mae hi wedi ei llunio o goed ynn Cymreig lleol," meddai.
Dywedodd iddo greu pedwar cynllun i'r Eisteddfod ddewis o'u plith.
Canmolwyd y gadair gan y bardd a'i henillodd, yn enwedig y llythrennu cerfiedig arni.
Cyfieithydd yn gweithio gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth ydi Eurig Salisbury ac yn ei gerdd y mae'n disgrifio diflastod a syrffed gweithiwr swyddfa wrth ei waith a'r gollyngdod sy'n dod iddo o wylio goleuni'r haul yn machlud dros Fae Ceredigion
- er mai y Bae yng Nghaerdydd a ddarluniwyd ar sgrin mawr ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod seremoni'r cadeirio.
Prysurodd Eurig i ddweud hefyd nad yw ei waith beunyddiol ef mor ddiflas a'r hyn a ddisgrifir yn y gerdd.
"Y mae ambell i ddiwrnod reit gyfrous," meddai.
Datgelodd hefyd mai'r ail gerdd a gyfansoddodd ar gyfer y gystadleuaeth oedd hon ac mai'r gerdd gyntaf a anfonodd a ddaeth yn ail.
Lluniodd ei gerdd fuddugol rhyw wythnos cyn y dyddiad cau pan oedd ei gariad, Rhiannon, i ffwrdd yn Iwerddon.
"Daeth y llinellau cyntaf yn rhwydd ac fe ddechreuodd y gerdd fynd yn hir ac yn hirach.
"Ond Rhiannon wnaeth fy annog i'w chwblhau fel mae hi'n mynnu fy atgoffa fi'n awr!" meddai.
Er wedi ei eni yng Nghaerdydd symudodd teulu Eurig i Langynog, ger Caerfyrddin, pan oedd yn chwech oed lle'r aeth i Ysgol Gynradd y Dderwen ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin.
Ym mhrifysgol Aberystwyth graddiodd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu.
Cyflwynodd draethawd MPhil ar Ganu Cynnar Guto'r Glyn ychydig fisoedd yn 么l ac mae'n gobeithio derbyn y radd yn yr haf.
|
|
|
|
|
|