成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Llinos Ymgyrchu yn erbyn tlodi
Aelodau o'r Urdd yn ymweld 芒 Romania
Bydd aelodau o'r Urdd yn ymweld 芒 Romania ddwywaith eleni i weithio gyda phlant mewn pentref tlawd.

Bydd aelodau eraill yn ymweld 芒 Gwlad Pwyl hefyd, fis Awst, i weithio mewn cartref i bobl ifainc.

Cyhoeddwyd manylion am y teithiau gan Llinos Roberts, Swyddog Cyd-ddyn a Christ yr Urdd, ddydd Mercher - diwrnod tynnu sylw at Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn yr Eisteddfod.

Mae'r neges eleni, a luniwyd gan Fforwm Ieuenctid Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, yn deillio o'r ymgyrch Rhoi Terfyn ar Dlodi ac yn canmol y gwaith da sydd yn cael ei wneud mewn achosion o dlodi gan herio pobl i wneud gwahaniaeth gyda'u gilydd drwy ymgyrchu ac ymuno a'r ymgyrch newydd, Dal i Guro.

"Mae'r neges hefyd yn ein harwain o ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi i ymgyrch Dal i Guro a'r her i barhau i ymgyrchu a gwneud s诺n a chamu gyda'n gilydd tuag at fyd mwy teg a chyfiawn," meddai Llinos.

"Mae Fforwm Ieuenctid Ysgol Maes Garmon wedi dangos aeddfedrwydd a chyfrifoldeb wrth lunio neges 2006," meddai.

Yr wythnos cyn yr Eisteddfod bu disgyblion o Faes Garmon yn cyflwyno'r neges mewn perfformiad arbennig yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Dywedodd fod y daith i Romania yn creu cysylltiadau rhwng yr Urdd a'r Romanian Foundation for Children and Families.

Elliw Roberts o'r Wyddgrug - un o'r rhai a fydd yn mynd i Romania gyda Delyth "Hawliau plant yw sylfaen gwaith y Romanian Foundation for Children and Families ac mae'r gwaith pellgyrhaeddol hwn yng nghefn gwlad Romania yn waith blaenllaw iawn. Bydd y criw yn dysgu am eu gwaith ac yn cael cyfle i ymweld 芒 phentref Popesti sy'n lle tlawd iawn gyda diweithdra uchel yn dilyn cau mwynfeydd copr yno," meddai.

"Bwriad y daith yw rhannu diwylliant, dysgu am ei gilydd a chael hwyl drwy ddawnsio, canu, celf a chrefft, chwaraeon a gemau." Yn ystod yr ymweliad gobeithir trefnu perfformiad cyhoeddus a fydd yn gymysgedd o ddiwylliant lleol a Chymreig.




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy