|
|
|
O gelf a chrefft i glytiau . . . o bwll nofio i gaffi Pob math o bethau ar Faes y Brifwyl |
|
|
|
ARDDANGOSFA CELF A DYLUNIO TECHNOLEG
Bydd arddangosfa o waith buddugol yr Adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn cael ei llwyfannu yn flynyddol yn Eisteddfod yr Urdd. Thema Celf, Dylunio a Thechnoleg eleni yw SYMUD ac mae'n bosib i'r cystadleuwyr ddehongli'r thema mewn sawl ffordd wahanol, boed yn llythrennol neu haniaethol. Yn y Pafiliwn Celf, Dylunio a Thechnoleg mae gweithdai dyddiol i blant yn ogystal 芒 champau gwyddonol sy'n cael eu darparu gan Techniquest@NEWI a MathCymru.
碍脜罢础
Eleni fel y llynedd, Kata, pabell draddodiadol yr helwyr Ceirw Sami o Lapland fydd i'w gweld ar faes yr Eisteddfod. Yn y K腔ta bydd brecwast masnach deg bob bore, ynghyd 芒 gemau a gweithdai amrywiol.
Y MAES CHWARAEON
Yn y Maes Chwaraeon mae p锚l-droed, rygbi, golff, p锚l-rwyd a llawer mwy o dan ofal staff yr Urdd, Scarlets Llanelli ac Adran Hamdden Sir Ddinbych. Dringwch wal ddringo Glan-llyn i gael gwell golygfa o Faes yr Eisteddfod!
Y GANOLFAN GROESO
Yn y Ganolfan Groeso mae bar coctel yr Urdd, Seibr Gaffi Prifysgol Cymru Aberystwyth, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir Ddinbych, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd 2006 a 2007. Ar gael yno hefyd mae offer cyfieithu i'w defnyddio yn y Pafiliwn.
MAP YR EISTEDDFOD
Caiff map ei gyhoeddi o faes yr Eisteddfod sydd nid yn unig yn dangos ble mae popeth ar y maes ond mae'n rhoi gwybodaeth am brif ddigwyddiadau'r wythnos hefyd. Bydd 50,000 copi yn cael eu hargraffu a'u dosbarthu yn rhad ac am ddim ar hyd y maes.
AWDURDODAU LLEOL
Cefnogir yr Eisteddfod yn hael yn ariannol gan Gyngor Sir Ddinbych, ac mae'r Eisteddfod wedi derbyn eu cydweithrediad parod wrth baratoi ar gyfer y brifwyl. Rhaid cydnabod hefyd gyfraniadau gwerthfawr a dderbyniwyd gan lu o gynghorau eraill ledled Cymru.
PWLL NOFIO
Bydd pwll nofio Ysgol Brynhyfryd ar agor bob dydd rhwng 5 a 7 yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
NEUADD GORAWL LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU
Bydd rhaglen lawn o berfformiadau a chystadlaethau, yn cynnwys y rhagbrofion corawl, i'w gweld yn y Neuadd Gorawl yn agos i brif fynedfa'r maes. Noddir y Neuadd Gorawl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
LLWYFAN PERFFORMIO
Bydd y Llwyfan Perfformio yn cynnig gwledd o berfformiadau byw gan artistiaid amrywiol a gweithgareddau eraill trwy gydol yr wythnos.
DOSBARTHIADAU MEISTRI
Yn y 'Dosbarth Meistr' gyferbyn 芒 Stiwdio 1, bydd cyfle i gystadleuwyr gymryd rhan mewn Dosbarthiadau Meistr gyda pherfformwyr amlycaf Cymru.
CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU
Yn stondin Cyngor Celfyddydau Cymru bydd gweithdai celfyddydau gweledol dyddiol a gweithdai perfformio amrywiol eraill, ynghyd 芒 sesiynau hyfforddiant gyrfaol yn ymwneud 芒'r celfyddydau.
CAFFI MISTAR URDD
Lluniaeth o bob math am brisiau rhesymol. 8.30 yb - 6.30 yh.
LLUNIAU LLWYFAN
Cyfle i archebu llun o bawb sy'n cystadlu gan Lluniau Llwyfan.
CYFLEUSTERAU BWYDO A NEWID CLYTIAU
Ym mhabell TWF mae cyfleusterau bwydo a newid clytiau.
|
|
|
|
|
|