|
|
|
Cyngherddau'r wythnos S锚r yn talu teyrnged i Caryl |
|
|
|
Teyrnged i Caryl Parry Jones fydd un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2006.
Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan Mai 28 mae Rhys Meirion, Eden, Dewi Pws, Emyr Wyn, Dafydd Dafis, disgyblion Ysgol Glanaethwy ac aelodau o'r anterliwt ysgolion.
Bydd Caryl ei hun - a fagwyd yn Ffynnongroyw rhwng Treffynnon a'r Rhyl - yno ar y noson. Meddai:
"Pan glywais am y cyngerdd teyrnged ro'n i'n teimlo'n wylaidd iawn ac wrth fy modd i fod yn onest.
"Dwi bob amser yn dweud fy mod i mor lwcus fy mod yn gwneud yr hyn be dwi'n ei wneud.
"Dwi'n ennill fy mywoliaeth trwy wneud yr hyn dwi'n ei garu orau yn y byd. Bydd teulu a ffrindiau yn y gyngerdd ac rwy'n siwr y byddai'n teimlo'n eitha emosiynol," meddai.
"Mae Eisteddfod yr Urdd yn rhoi hyder i bobol ifanc, a'r cyfle i werthfawrogi safon, a sut i golli efo urddas," ychwanegodd.
Dwy arall Bydd dwy sioe arall ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr Eisteddfod.
Cymerir rhan yn Plas Du Mai 27 am saith, gyda geiriau gan Hywel gwynfryn a cherddoriaeth gan Robat Arwyn gan ddisgyblion ysgolion uwchradd Sir Ddinbych.
Ymysg y cast mae Steffan Rhys Hughes, 12 oed o Landyrnog, sy'n wyneb cyfarwydd ar hyd a lled Cymru yn dilyn ei lwyddiant gyda'r Urdd.
Glyndwr Ar Fai 30 a 31 bydd disgyblion ysgolion cynradd y sir yn cyflwyno cynhyrchiad am, Owain Glyndwr.
Y rhif ar gyfer tocynnau yw 0845 2571639 neu gellir ymweld 芒 gwefan yr Urdd
|
|
|
|
|
|