成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Manon Wyn Theatr yn cynnig cyfle
Sgrifennu yn hobi i enillydd medal lenyddiaeth
Cafwyd gair o ddiolch am y cyfleon y mae'r theatr Gymraeg yn ei gynnig i ysgrifenwyr newydd gan enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd 2006.

fghYr oedd Manon Wyn yn siarad gyda'r wasg wedi iddi gael ei hurddo ar lwyfan y brifwyl yn dilyn canmoliaeth y beirniaid, Luned Emyr ac Elfyn Pritchard i'w gwaith.

Mater o ddyfal barhad fu hi yn achos Manon a chyrhaeddodd y brig y flwyddyn olaf y gall gystadlu a hithau'n awr yn 24oed.

fghYr oedd eisoes wedi dod yn drydydd yn yr un gystadleuaeth ddwy flynedd a bu'n ail am y Goron ddwywaith yn olynol.

Dywedodd mai hobi yw sgrifennu iddi a'i bod yn sgrifennu bob cyfle gaiff hi.

Yn ystod cyfnod yn teithio ynysoedd Cefnfor yr India dywedodd iddi dreulio deufis yn sgrifennu.

fghHyd yn hyn ym maes y ddrama y profodd ei llwyddiant pennaf gyda drama fer ganddi wedi ei llwyfannu gan Sgript Cymru ac yr oedd hi hefyd yn un o'r pedair a sgrifennodd ar gyfer arbrawf cynhyrchiad Dominos Theatr Genedlaethol Cymru - gyda'r cynhyrchiadyn cael croeso cyffredinol gan adolygwyr.

fgh Y mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar waith comisiwn ar gyfer yr un cwmni a mynegodd ei gwerthfawrogiad o'r cyfleoedd sy'n cael eu gynnig i sgrifennwyr ieuanc ym myd y theatr y dyddiau hyn.

"Mae mwy o gyfleoeddfgh i sgrifennu drama ond doedd hi erioed yn fwriad gen i sgwennu drama yn unig," meddai gan ychwanegu ei bod yn hoff o bob ffurf o ryddiaith.

"Mae sgwennu yn hobi imi," meddai.

Un o'r pethau a wnaeth argraff arfeirniaid y gystadleuaeth oedd ei chynildeb.

"Mae yna gynildeb yn y dweud, a'r awdur yn amlwg yn hyderus ac yn dotio wrth drin geiriau," meddent.



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy