成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Kathleen Makinson Gwraig y Goron
Llunio tlysau cain ar gyfer enillwyr
Yr oedd y wraig sydd wedi cynllunio'r goron sy'n cael ei gwisgo yn ystod un o brif seremon茂au'r Eisteddfod ar ymweliad 芒'r Wyl ddydd Iau.
Yn 79 oed mae Kathleen Makinson a aned yn Efrog Newydd yn dal i wneud tlysau ar gyfer yr Eisteddfod.

Symudodd i fyw yng Nghymru gyda'i g诺r a'i dau o blant yn 1956 ac mae'n awr yn byw yn Ninbych.

Er nad yw hi yn medru Cymraeg dywedodd i'w phlant ddysgu'r iaith ac oherwydd ei gwaith ei hun gallodd feithrin cysylltiad agos a'r diwylliant Cymraeg.

Kathleen Gwnaeth ei choron gyntaf ar gyfer eisteddfod arbennig a gynhaliwyd yng Nghaerwys, 1968.

Ers hynny mae wedi gwneud naw coron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a rhwng 1976 a 1996 lluniodd 99 o dlysau ar gyfer enillwyr yr Urdd.

Mae hefyd wedi cynlluniau tlysau ar gyfer y 成人快手, y Cymmrodorion ac HTV ymhlith cyrff eraill.

Defnyddir y Goron a wnaeth i'r Urdd i goroni awdur rhyddiaith gorau'r 糯yl ar ddydd Gwener Eisteddfod Genedlaethol y mudiad.

Bydd y llenor ei hun yn cael coron lai i'w chadw.

Am y Goron sydd wedi ei gwneud o arian gyda chennin Pedr gild arni dywedodd: "Y syniad oedd cael cennin Pedr o amgylch y goron, a'r rheini yn gallu symud mymryn er mwyn dal y golau." Ar gyfer y seremoni eleni twtiodd a diweddarodd y Goron.

Hi hefyd wnaeth fedalau'r prif gystadlaethau gan gynnwys y brif gystadlaethau llenyddiaeth, y cystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg, y Fedal Ddrama, y fedal ar gyfer y cyfansoddwr gorau a Medal John a Ceridwen Hughes a'r Fedal ar gyfer enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel a ddyfernir fis Medi.

Hi hefyd fu'n beirniadu'r adran gemwaith yng nghystadleuaeth y Fedal Grefft yn yr Eisteddfod.

Meddai, "Wrth feirniadu'r gemwaith roeddwn yn edrych ar sawl agwedd o'r gwaith; gwreiddioldeb y syniadau er mwyn cyfleu'r thema 'symud', safon y creu ar gyfer yr oed dan sylw, y dewis o ddeunyddiau, y defnydd o liw a pha mor ddeniadol oedd y darn.

"Roedd gwaith y plant cynradd yn fendigedig gyda digon o gystadleuwyr 芒 syniadau da a defnydd da o ddeunyddiau."




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy