 |
 |
 |
Teyrnged llywydd i ysgolion 'Chwaraeon yn chwalu ffiniau' |
 |
 |
 |
Talwyd teyrnged i ysgolion bro'r Eisteddfod am eu gwaith yn cynnal yr iaith Gymraeg.
Yn Llywydd y Dydd, ddydd Iau, dywedodd Dylan Wyn sy'n un o gyflwynwyr 成人快手 Radio Cymru iddo gael ei synnu faint o Gymraeg sy'n dal i gael ei siarad yn yr ardal.
"Mae'r ysgolion yn yr ardal yn gwneud gwaith rhyfeddol o dda; sy'n allweddol i barhad yr iaith yn Nyffryn Clwyd," meddai.
Canmolodd hefyd yr amrywiaeth o weithgareddau y mae'r Urdd yn ei baratoi gan gynnwys chwaraeon.
"Mae chwaraeon yn weithgarwch sy'n torri ffiniau rhwng pobl ac yn rhywbeth sy'n galluogi pawb i gymryd rhan," meddai.
"Mae'r Urdd," ychwanegodd, "yn parhau i fod yn fudiad perthnasol a phwysig i fywyd Cymru."
Rhagor am Lywyddion y Dydd
 |
 |
 |
 |
|
|