成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Clawr llyfr Tintin Tintin yn Gymraeg
Tachwedd 2008
Cyn-ddisgybl Ysgol Llanhari yn addasu llyfrau Tintin i'r Gymraeg

Mae dau deitl Tintin yn Gymraeg, sef Mwg Drwg y Pharo ac Awyren 714 i Sydney yn barod i ddiwallu chwantau cannoedd o'i ffans yng Nghymru sy wedi bod yn awchu am gael darllen amdano yn Gymraeg ers hydoedd.

Mae poblogrwydd llyfrau Tintin a'i anturiaethau cyffrous yn anferthol. Yn wreiddiol o Wlad Belg, ac yn ffrwyth dychymyg yr awdur Herg茅, mae'r straeon amdano wedi cael eu cyfieithu i dros 70 o ieithoedd. Ac yn dilyn saib fu'n rhy hir o lawer, mae'r cyhoeddwyr Dalen wedi dod 芒'r cymeriad hoffus a'i gyfeillion n么l i siarad Cymraeg.

Addaswyd y llyfrau Tintin Cymraeg gan Dafydd Jones o Benybont. Bu Dafydd yn ddisgybl yn Ysgol Llanhari yn y 70au, lle cafodd flas ar wella'i Ffrangeg drwy bori drwy lyfrau Tintin. Byth ers hynny, bu'n un o ffans pennaf Tintin a gwaith yr awdur Herg茅 yn gyffredinol ac mae ei gyfieithiadau newydd yn binacl ar freuddwyd fu ganddo ers blynyddoedd.

"Fe wnes i ddechrau darllen llyfrau Tintin yn Llanhari, gan ddychmygu ac uniaethu 芒'r digwyddiadau yn y byd eang drwy'r cloriau," meddai Dafydd, "ac roedd hyn wastad drwy'r Gymraeg".

Ers cyhoeddi'r llyfrau Tintin Cymraeg yn gyntaf n么l ar ddechrau'r 80au, mae Dafydd wedi cael dros chwarter canrif i feddwl sut alle fe wella ar y cyfieithiadau hynny. Dyma'r tro cynta i Mwg Drwg y Pharo ac Awyren 714 i Sydney ymddangos yn Gymraeg, ac erbyn hyn mae gwedd newydd i Tintin a'i ffrindiau.

Enw newydd ei gi bach ffyddlon yw Milyn; ei gyfaill o forwr yw'r Capten Hadog; y gwyddonydd penchwiban sy'n gwmni afieithus i Tintin yw Ephraim R Efflwfia; a'r ddau dditectif sy'n dueddol o wneud popeth o chwith yw Parry-Williams a Williams Parry.

Mae Mwg Drwg y Pharo ac Awyren 714 i Sydney wedi eu sgwennu'n ystwyth mewn dull y bydd darllenwyr o bob cwr o Gymru yn gallu uniaethu ag e. Gyda'r j么cs cynnil, yr enwau penigamp, a'r straeon anturus, bydd y llyfrau Tintin Cymraeg yn sicr o fod at ddant pawb o bob oedran sy'n hoffi stori dda am y cymeriad byd enwog eiconig.

Tintin: Mwg Drwg y Pharo a Tintin: Awyren 714 i Sydney pris 拢6,99 yr un. Mae mwy o fanylion am y llyfrau ar wefan Dalen, sef www.dalenllyfrau.com


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy