Yng nghanol y tost a'r te ar ryw fore cyffredin yn ffreutur y neuadd breswyl, ac ymysg y cannoedd o leisiau dieithr, acen Gymraeg yn dod o geg y ferch drws nesa....
"Catrin?" Ro'n i'n gwybod yn syth mai hon oedd y 'Nia o Gaerfyrddin' yr oeddwn yn chwilio amdani, hithau'n chwerthin o wybod fod gwell siawns o lawer iddi fod yng nghwmni rhyw 'Fiona o Forfar' na'r 'Catrin o Gaerdydd' yr oedd hi hefyd yn ceisio dod o hyd iddi! Roedd cael siarad Cymraeg rhyw 400 milltir yn agosach at begwn y gogledd yn rhyfeddol - ond fel petaem ni wedi 'nabod ein gilydd erioed. Y sgwrs i ddilyn yn gwneud dim ond atgyfnerthu'r darlun oedd gan y criw o Wyddelod a Saeson wrth y bwrdd, sef fod 'pawb yng Nghymru'n nabod pawb'.
Dyddiau'n ddiweddarach wedyn, acen Gymraeg unwaith eto yn sefyll allan fel dafad ddu yng nghanol praidd o gotiau gwyn yn y labordy, a phum munud o sgwrs yn selio cyfeillgarwch bore oes. Siriol hefyd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin ac yn ffrind i Nia.
O wybod bod ein ffrindiau ysgol ni i gyd yn cael amser arbennig yn aelodau o gymdeithasau Cymraeg Prifysgolion Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth, dechreuodd 'Y Gymraes' ynom gorddi. A dyna benderfynu ar ddod 芒 Chymru i'r Alban.
Ein gobaith oedd sefydlu cymuned Gymraeg a di-Gymraeg ei hiaith i fod yn blatfform i gymdeithasu ac i gwrdd 芒 phobl newydd, gan wybod y byddai pawb yn teimlo'n gartrefol yng nghwmni ei gilydd yn syth. Blwyddyn yn ddiweddarach bu'r dasg o sefydlu'r gymdeithas yn llwyddiant mawr. Mae dros 100 o enwau ar y rhestr e-bost, 30 ohonynt yn aelodau selog a thua hanner o'r rhain yn rhugl eu hiaith tra bod dwsin efallai 芒 Chymraeg bras yr hoffent ei hymarfer bob nos Iau.
Yn eu plith mae cyn ddisgyblion o ysgolion Bro Myrddin, Glantaf, Plasmawr, Llanhari. Stanwell a Threorci, heb anghofio cynrychiolaeth y gogledd! Yn ogystal mae ambell i fyfyriwr wedi ymaelodi am ei fod yn `gwerthfawrogi defaid Cymru'!, eraill yn fyfyrwyr ieithyddiaeth sydd ag awydd dysgu'r Gymraeg; heb anghofio'r llu o Americanwyr sy'n gobeithio darganfod rhyw berthynas i'w cyndeidiau!
Bu nosweithiau cwis, gwisg ffansi ac eisteddfod dafarn yn llwyddiannau mawr ac mae torf ohonom yn dod at ein gilydd i wylio'r gemau rygbi. Efallai mai uchafbwynt y flwyddyn oedd y dathliad ar ddydd G诺yl Dewi gyda noson o gawl, bara brith a phice-ar-y-maen, yn ogystal 芒 thwmpath dawns i goroni'r noson. Rwy'n falch iawn o gael fy ethol yh gadeirydd ar y gymdeithas yn ei hail flwyddyn pan fyddwn yn mynd ar drip i Ddulyn i gefnogi'r rygbi chwe gwlad. Mae gofyn wedi bod am Rhyng-gol ein hunain gyda phrifysgolion Lloegr hyd yn oed!
Ac felly os byddwch chi byth yn ymweld 芒 Chaeredin, cadwch lygaid barcud am y siwmperi coch, gwyn neu wyrdd a'r slogan "Don't EUWS wish you were Welsh" ar eu cefnau, yr EUWS yn sefyll am Edinburgh University Welsh Society - r'yn ni ar gynnydd lan 'ma!
Catrin Middleton