成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Brenda Davies, Irene Evans a Merle Roberts yn dathlu Cangen yn dathlu deg
Rhagfyr 2008
Brenda Davies, Irene Evans a Merle Roberts yn dathlu 10fed pen-blwydd Merched y Wawr Tonysguboriau

Mae eleni yn flwyddyn arbennig i gangen Tonysguboriau Merched y Wawr oherwydd byddwn ni'n dathlu deng mlynedd fel cangen. Sefydlwyd y gangen gan bedair dysgwraig ar 么l i ni orffen ar gwrs dwys gyda Basil Davies, sef Brenda Davies, Merle Roberts, Irene Evans a Margaret Jones. Ond erbyn hyn bu farw Margaret ar 么l salwch hir.

Penderfynon ni ymuno 芒 Merched y Wawr er mwyn cael cyfle i gymdeithasu yn yr iaith Gymraeg. Ar un adeg dim ond dysgwyr oedd yn y gangen ond rydym wedi denu Cymry Cymraeg sy'n help mawr i'r gangen.

Cynhaliwyd cinio ym mwyty'r 'Barn', Mwyndy pan ddaeth ein holl aelodau at ei gilydd i ddathlu'r degawd. Cafodd Brenda ei anrhegu gyda mwclis a chlustlysau garnet gan yr aelodau mewn gwerthfawrogiad o'i gwaith fel ysgrifenyddes a thrysorydd ers sefydlu'r gangen. Cafodd Merle ei anrhegu 芒 basged fawr o flodau am ei gwaith fel llywydd am dros bedair blynedd.

Trefnodd Beti Thomas, ein trysorydd newydd, deisen gydag arwyddlun Merched y Wawr arni a daeth Mary O'Brien 芒 balwn a bathodyn wedi ei wneud ar ei chyfrifiadur i bob aelod, ac yn fwy pwysig na hynny daeth hi 芒'i chamera. Yn wir roedd yn noson i'w chofio.

I ddechrau'r flwyddyn cawson ni sgwrs am Hydref, sgwrs ddiddorol oedd hi gan Betsi Griffiths o Gilfach Goch. Ym mis Tachwedd daeth merch ifanc, Nia Clements, a dangosodd hi ei sgil with addurno teisen Nadolig. Daeth hi 芒 llawer o deisennau a rhoddodd hi nifer o syniadau i ni. Rydym i gyd yn gobeithio gwneud y deisen orau erioed eleni!

Ym mis Rhagfyr rydym yn edrych ymlaen at ymweliad y delynores Glenda Clwyd i'n helpu i ddathlu'r Nadolig. Fe fydd e'n ddiwedd addas i'r flwyddyn hon.

Bydd y gangen yn cwrdd ar drydedd nos Fercher y mis yn y Pafiliwn, Tonysguboriau am 7.30yh. Croeso i bawb. Manylion pellach: Brenda Davies 01443 225549.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy