成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Hunanbortread o Brian Davies Cyhoeddi cyfres o bortreadau
Medi 2008
Daeth Gethin Jones, Bryn Terfel, Matthew Rhys, Cerys Matthews a llond gwlad o wynebau adnabyddus ynghyd mewn cyfrol newydd.

Y cyn chwaraewr a'r sylwebydd rygbi Brian Davies sy'n gyfrifol am, Portreadau Brian Davies Portraits, a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch.

Lansiwyd y llyfr o flaen torf o bron i ddau gant mewn noson arbennig yng Ngorffennaf yn Canada Lodge, Creigiau ger Caerdydd.

Mae'r gyfrol ddwyieithog hon yn cynnwys hanner cant o wynebau cyfarwydd a rhai anghyfarwydd o sawl maes gwahanol gan gynnwys cantorion, cerddorion, actorion, diddanwyr, darlledwyr, gwleidyddion, artistiaid a gw欧r y campau yn ogystal 芒 rhai nad ydynt yn ffigurau cyhoeddus ond sydd wedi cyfrannu'n sylweddol mewn swyddi holl bwysig.

Un peth sydd yn gyffredin iddyn nhw i gyd yw 'mod i'n edmygu eu doniau a'u campau ac yn falch iawn o gaed y cyfle i greu portread," meddai awdur y llyfr, Brian Davies.

Yn 诺r y campau yn ystod ei yrfa gan gynrychioli Ysgolion Cymru mewn rygbi, criced ac athletau cyn chwarae rygbi dros Lanelli a Chymru.

Nid oes syndod mai gweld llun o Jonny Wilkinson gyda'i draed yn yr awyr wrth daclo Shane Williams yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn 2003 a ysbrydolodd Brian Davies i ddatblygu ei ddiddordeb mewn arlunio ymhellach.

Bum mlynedd yn ddiweddarach ac mae Brian yn cyhoeddi casgliad o hanner cant o luniau o gyfeillion, cyfoedion a phobl y mae'n eu hedmygu.

Dechreuodd ddiddordeb Brian mewn celf tra'n yr ysgol ond wedi i'w athro ei berswadio bod gyrfa mwy llewyrchus o lawer o'i flaen yn y gwyddorau, fe aeth i weithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg am dros 30 mlynedd. Dim ond wedi iddo ymddeol y mae unwaith eto'n cael y cyfle i ail gydio yn y grefft.

Wedi cwblhau sawl llun o chwaraewyr rygbi nodedig a'u gwerthu wedi eu llofnodi gan y gw欧r eu hunain er mwyn codi arian at elusen, fe benderfynodd baentio'i hun.

"Fe baentiais i hunanbortread ac wrth Iwc roedd yn edrych yn debyg i mi," meddai. "Yna fe es i mlan i dynnu llun o ddau sy'n byw yn lleol, Catrin Finch a Matthew Rhys. Fe ddigwyddodd Catrin s么n ei bod wedi gweithio gyda'r cyfansoddwr Karl Jenkins ac awgrymu y dylwn i ei baentio fe, a fel 'na ddechreuodd pethe," eglurodd.

"Mae paentio yn esgus go dda i mi godi arian at achos da," meddai'n swil. Yr elusen sydd yn derbyn yr arian ac sy'n agos at galon yr awdur yw Systig Ffeibrosis.

"Mae Systig Ffeibrosis yn effeithio ar blant a phobi ifanc, gan dagu'r ysgyfaint a'r system dreulio. Hyd oes bywyd rhywun 芒'r clefyd yw dim ond 31 mlynedd ar gyfartaledd," eglura Brian.

"Rwy i'n bersonol wedi cael bywyd llawn chwaraeon ac mae 'nghalon yn gwaedu dros y rhai sy'n methu mwynhau bywyd corfforol llawn. Mae'r bobi ifanc sy'n wynebu'r clefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi i fyw bywyd i'r eithaf a datblygu sgiliau annisgwyl. Rwy'n ddiolchgar iddynt."

I gyd fynd 芒 phob llun ceir portread geiriol gan Brian wrth iddo roi ychydig o hanes, argraffiadau ac atgofion o bob cymeriad yn ei eiriau ei hun.

"Gan mod i wedi cyfarfod y rhan fwyaf o bobl sy'n ymddangos yn y llyfr cyn i mi eu paentio roeddwn i eisiau cynnwys rhai o'n hatgofion personol i gyd-fynd 芒'r Iluniau. Felly, rwy wedi cynnwys rhai o uchafbwyntiau eu gyrfa yn ogystal 芒 mhrofiad i o'u darlunio," ychwanegodd Brian.

Ffrind agos i Brian, ac un sy'n ymddangos yn y Ilyfr yw'r cyflwynydd a'r sylwebydd rygbi, Huw Llywelyn Davies. "Gellir dweud bod hon yn gyfrol sy'n dathlu talent y Gymru gyfoes ar ganfas eang iawn, cyfrol i harddu unrhyw silif lyfrau."

Portreadau Brian Davies Portraits Carreg Gwalch 拢12.00

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy