成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Matthew Rhys Cyfweliad 芒 Matthew Rhys
Tachwedd 2003
Fel rhan o'u gwaith ar gyfer gorsaf radio GTFM, cafodd dau ddisgybl o Flwyddyn 11, Matthew Breese a Bethan Keogh, y cyfle euraidd o gyfweld ag un o s锚r actio mwyaf Cymru. Neb yn llai na'r hyfryd ac aml-dalentog Matthew Rhys.

Mae gan y ddau raglen wythnosol ar GTFM 106.9 o'r enw 'Amser Arddegau'. Bob wythnos rhwng 6 a 7 o'r gloch maent yn darlledu o Brifysgol Morgannwg. Fel arfer maent yn chwarae cryno-ddisgiau di-ri, yn cyhoeddi cyhoeddiadau a newyddion o'r ysgol ac weithian maent yn cael y cyfle i gyfweld 芒 gwahanol unigolion ar y gyfer y sioe.

Ar 么l wythnosau o drefnu fe aeth y ddau lawr i'r Theatr Newydd, Caerdydd i gyfweld 芒 Matthew Rhys. "Roeddwn yn gyffrous a nerfus hefyd cyn y cyfweliad", cyfaddefodd Bethan, "ond unwaith i mi gwrdd 芒 Matthew, roedd e mor gwrtais a mor gyfeillgar, nes i anghofio am y nerfau'n gyfangwbl!"

Ychwanegodd Matthew Breese, "Doedd dim amser gen i i boeni am y ffaith ein bod ni'n cwrdd 芒 rhywun mor enwog, oherwydd fy nghyfrifoldeb i oedd i sicrhau bod y lefelau'n gywir ar y recordydd cryno-ddisg".

Roedd Matthew Rhys yng Nghaerdydd gan mai fe a Nia Roberts oedd yn chwarae'r prif-rannau yn Under Milkwood ('Dan-y-Wenallt'). Dywedodd ei fod wrth ei fodd i fod yn 么l yng Nghymru yn gweithio, ac y daw yn 么l bob cyfle a ddaw iddo. "Mae'n wych i ddod n么l i Gymru i weithio, yn arbennig i Gaerdydd. Mae'r ffaith fy mod wedi cael fy newis i fod yn rhan o'r prosiect hwn ar gyfer dathlu hanner can mlwyddiant marwolaeth Dylan Thomas yn fraint ac yn amrhisiadwy".

Mae e wedi bod yn brysur yn actio ar lwyfan ond y mae hefyd wedi cael y cyfle i weithio ym myd y ffilmiau gyda actor enwog arall o Gymru. "Rych chi'n gallu dysgu llawer wrth weithio gyda Anthony Hopkins. Mae e'n berffeithydd ond, ar y llaw arall, mae e'n deip o ddyn sy'n hoffi i chi alw'n "Tony'!" Ychwanegodd "Roedd yn anghredadwy cael y cyfle i weithio gyda fe".

Gofynnodd y disgyblion beth oedd ar y gweill i Matthew ar 么l gorffen y prosiect hwn. "Mae gen i ffilm sy'n dod mas cyn hir o'r enw 'Fakers' ac ym mis Chwefror fe fyddai'n chwarae Romeo yng nghynhyrchiad nesaf 'Romeo a Juliet' yr RSC yn Stratford".

Mae'n amlwg bod nifer o gynhyrchwyr theatr, ffilm a theledu Prydain ac America yn gallu gwerthfawrogi talentau amrywiol yr actor ifanc hwn o Gaerdydd, a gobeithiwn yn fawr ei weld yn actio n么l yng Nghymru yn y dyfodol agos.

Fe fydd cyfweliad Matthew Rhys yn cael ei ddarlledu'n rhannol, ac yn wythnosol ar (3TPM 106.9, bob nos Fawrth rhwng 6 a 7. Os hoffech fwy o wybodaeth am Romeo a Juliet yn Stratford, cysylltwch 芒'r RSC ar 01789 403403.

Bethan Keogh a Matthew Breese


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy