成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Yr hen festri Troi hen festri yn ganolfan gymunedol
Rhagfyr 2009
Bydd cynllun uchelgeisiol gwerth 拢450,000 yn dechrau fis Rhagfyr i adnewyddu'r hen festri sy'n perthyn i gapel y Tabernacl, Efail Isaf.
Caiff y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Y Loteri Genedlaethol a'r Cynulliad, a'r disgwyl yw y bydd y gwaith o ymestyn ac ailwampio'r adeilad i'w droi'n ganolfan gymunedol yn cymryd rhyw saith mis.

Y bwriad yw addasu'r hen festri, a godwyd yn wreiddiol ddechrau'r ugeinfed ganrif, i fod yn ganolfan amlbwrpas at ddefnydd y capel a'r gymuned yn gyffredinol.

Mae gan y Tabernacl ddwy gynulleidfa, y naill yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg a'r llall yn cynnal oedfaon Saesneg, ond bydd yr adeilad newydd ar gael at ddefnydd cylch llawer ehangach o bobl, o fewn y pentref ei hun a'r ardal o gwmpas.

Dyfarnwyd grant o 拢300,000 gan Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol y Cynulliad, a 拢122,000 gan gronfa Pawb a'i Le, Y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Emlyn Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, "Mae cyflwr gwael yr adeilad hwn wedi bod yn broblem ers peth amser, ac yn llyffethair i'r capel rhag medru bod mor effeithiol ag yr hoffem fod yn y gymuned.

Mae dirfawr angen am adnodd o'r fath yn yr ardal, a bydd y ganolfan newydd yn sylfaen i'r Tabernacl fedru parhau i gefnogi elusennau lleol yn ariannol ac yn ymarferol, trwy fudiadau dyngarol amrywiol a thrwy'r cydweithio agos gyda'r gwasanaethau cymdeithasol."

Ymysg y grwpiau a fydd yn elwa o'r datblygiad mae'r clwb ieuenctid sy'n cyfarfod bob nos Sul.

Ychwanegodd Wyn Jones , Ysgrifennydd y Tabernacl, y bydd y ganolfan yn gartref i nifer o fudiadau gan gynnwys y Cylch Meithrin.

"Elfen bwysig arall o'r bwrlwm cymdeithasol yw bod y Tabernacl, dros y degawdau diwethaf, wedi bod yn ganolbwynt i amrywiaeth eang o weithgareddau Cymraeg eu hiaith, gyda gwahanol gorau a chymdeithasau yn arfer cyfarfod yn yr hen festri, ond llawer ohonynt wedi gorfod gadael oherwydd cyflwr y lle."

Enillwyd y tendr i gwblhau'r gwaith gan Neil Smith a'i gwmni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy