成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Dawnswyr Bro Taf Dawnswyr Bro Taf yn bencampwyr dawnsio gwerin y byd
Mai 2009
Mae Dawnswyr Bro Taf yn bencampwyr dawnsio gwerin y byd yn y dosbarth i blant. Yn hwyr nos Sadwrn, Ebrill 18, fe enillodd y gr诺p ifanc y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth bwysig ar ynys Mallorca.

Mewn gwledd o liw ac asbri, dyma nhw'n cipio'r wobr yng Ng诺yl Ddawnsio Gwerin y Byd. Roedd timau o bedwar ban byd yn cystadlu yn yr 诺yl a phob un yn ymfalch茂o yn eu diwylliant a'u traddodiadau.

Dros wythnos, fe fu'r gr诺p yn perfformio o gwmpas dinas hynafol Palma, yn derbyn clod mawr gan y beirniaid a'r gwylwyr. Yn 么l un dyn o Mallorca, dyma yn ei farn ef oedd y perfformiadau gorau a brofodd mewn 66 mlynedd o ddilyn dawnsio gwerin.

Yn teithio gyda'r 20 o berfformwyr, roedd t卯m o rieni, cerddorion a thiwtoriaid.

Meddai Ann Brookman, un o'r rhieni fu mor weithgar yn codi arian i'r gr诺p, "roedd gweld y plant yn dawnsio o'r galon yn rhywbeth bythgofiadwy. Wna'i fyth anghofio'r profiad ac yn sicr wnaiff fy merch Charly Ann fyth途 mae fy llais yn brifo o hyd. Ni chlywodd Palma Oggi, oggi, oggi fel hyn erioed o'r blaen!"

Mae'r gr诺p wedi bod yn llwyddiannus iawn yn clocsio a dawnsio gwerin, yn ennill yn Eisteddfod yr Urdd, y wobr gyntaf i blant yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen llynedd a nawr yn bencampwyr ifanc y byd ym Mallorca.

Wrth gyrraedd adref yng Nghymru, roedd gan un aelod, Josh Morgan, 12 oed o Greigiau, syniad ar gyfer y dyfodol "pam na chawn i ni ymuno a'r Shuttle a chlocsio yn y gofod!"

Ond nid yw'r llwyddiant yma wedi dod dros nos i'r dawnswyr, sy'n ymarfer bob nos Fawrth yn Ysgol Heol y Celyn fel rhan o gr诺p estynedig途 maent yn dysgu dawnsio, canu a drama.

Sefydlwyd y gr诺p prin dair blynedd yn 么l ac mae'r paratoi a'r ymarfer wedi bod yn waith caled a chodi arian yn sialens. Fe fydd y wobr o 1500 euro felly yn werth ei chael.

Fe fydd realiti yn dychwelyd yn fuan, meddai cyfarwyddwraig y dawnswyr, Eirlys Britton. Dim ond ychydig amser sydd cyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Roedd ennill ym Mallorca yn brofiad teimladwy i Eirlys. Fel un o sefydlwyr Dawnswyr Nantgarw dywedodd Eirlys wrth y Tafod "mae hwn wedi bod yn freuddwyd ers 20 mlynedd. Fe gawsom ni ail yno rai blynyddoedd yn 么l. Ond mae ennill y wobr gyntaf yn y dosbarth i blant yn arbennig. Mae pawb wedi ymarfer yn wych a hoffwn roi diolch mawr i fy nghyd diwtoriaid Gavin Ashcroft a Nerys Griffiths途 heb anghofio'r rhieni sydd wedi bod mor weithgar" Yn wir, mae gan Ddawnswyr Bro Taf dalent, llawer ohono fe.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy