Bu t芒n enfawr dros nos yng Nghapel y Ton, Tonyrefail, a dim ond cragen yr adeilad sy'n weddill. Y mae'n drist iawn gorfod pasio a gweld dim byd ar 么l.
Bydd yn rhaid mynd ati i dynnu'r gragen i lawr nawr gan ei bod yn beryglus.
Mae'r capel wedi cau ers rhai blynyddoedd ac mae ei weld heddiw yn brofiad trist iawn i holl drigolion Tonyrefail, ond yn enwedig y rhai hynny sydd 芒 rhyw gysylltiad 芒'r capel. Diolch bod dwy gadair, bwrdd y sedd fawr a'r ddarllenfa wedi eu symud cyn y digwyddiad.
Adeiladwyd y capel gwreiddiol yn 1791 ac fe' i dadgorfforwyd yn 2002.
Rhybuddiwyd yr enwad yn 2005 fod pobl wedi torri mewn a niweidio'r capel.
Helen Prosser
|