成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Hywel Griffiths, catrin dafydd (Evita Morgan) a iwan Rhys yng Nghlwb y Dwrlyn. Evita yng Nghreigiau
Tachwedd 2006
Agorwyd tymor newydd Clwb y Dwrlyn yn Neuadd yr Eglwys, Creigiau ar Fedi 29 yng nghwmni Catrin Dafydd a'i ffrindiau, sef Hywel Griffiths, Iwan Rhys a'r cymeriad unigryw o Batagonia - Evita Morgan.
Noson i'w chofio oedd hon. Talent ieuanc ein cenedl yn disgleirio, a chynulleidfa deilwng hwyliog yn mwynhau bob munud.

Mae Catrin o Waelod y Garth, ac yn adnabyddus inni i gyd wrth gwrs fel enillydd cenedlaethol cyson yn yr Urdd gyda'i gwaith llenyddol. Hi sy'n gyfrifol am y cylchgrawn blynyddol ar adeg yr Eisteddfod, 'Dim Lol' - olynydd 'Lol' - ac fe gyhoeddodd ei nofel gyntaf Pili Pala yn gynharach eleni. Daw Hywel ac Iwan o ardal Caerfyrddin, y ddau yn ffrindiau coleg Aber i Catrin - yn feirdd `newydd' o bwys, a hwythau hefyd yn enillwyr Prifwyl yr Urdd. Yn cadw trefn arnyn nhw - ac ar y gynulleidfa - roedd Evita Morgan. Yn wir cymaint oedd ci chyfraniad nes iddi roi Catrin druan yn y cysgod braidd!

Cafwyd plethiad o gerddi a chaneuon difyr gan Iwan a Hywel a'r ddau yn dangos eu doniau rhyfeddol gyda geiriau. Ein swyno ag acen felodaidd y Paith a wnaeth Evita mewn cerdd a ch芒n a stori herfeiddiol. Daeth yn amlwg ei bod ar ymweliad 芒 Chymru i ddau berwyl, sef i werthu cynnyrch ei gwlad - cafwyd tun o Fray Bentos yn wobr am limrig - ac i chwilio am 诺r cefnog, rhywiol. Er bod dynion cefnog yn y gynulleidfa, ni chymrodd ffansi at yr un ohonyn nhw.

Bydd Catrin (a falle Evita), Iwan a Hywel yn teithio Cymru gyda'u sioe yn ystod yr hydref, dan nawdd yr Academi Gymreig. Aelodau eraill y sioe yw Eurig Salisbury ac Aneurin Karadog. Cyhoeddir cyfrol o gerddi'r daith hefyd. Da gweld talent ifanc yn cael cyfle i ddangos a datblygu eu doniau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy