Bydd cyfle i flasu bwydydd o bedwar ban byd a mwynhau dawnswyr a chantorion o amrywiol ddiwylliannau. Yn ogystal, bydd ysgolion y gymuned yn traddodi Neges Ewyllys Da. I gwblhau'r dathliadau bydd ffilm nodedig Paul Robeson 'Proud Valley' yn cael ei dangos yn y theatr yn y prynhawn.
Yn ogystal, cynhelir cyngerdd arbennig ar Fai 3 a fydd yn gyfle i weld nifer o'r enillwyr lleol a fydd yn cynrychioli'r ardal hon yn yr Eisteddfod mewn ychydig o wythnosau. Yn unol 芒'r drefn newydd dangosir ffilm ar brynhawn dydd Iau ola'r mis i oedolion - Shooting Dogs - sydd yn ymwneud 芒 hanes yr hil-laddiad yn Rwanda.
Er bod dros 1000 o bobl yn defnyddio'r Ganolfan yn wythnosol erbyn hyn, mae'n si诺r bod nifer o ddarllenwyr Tafod El谩i yn anghyfarwydd 芒'r lle o hyd. Cofiwch, mae croeso i chi alw draw i gael taith o amgylch yr adnoddau sy'n cynnwys theatr, gwegaffi, ystafell gynadledda ac ystafelloedd dysgu amrywiol. Yn ogystal, mae rhestr gynhwysfawr o gyrsiau newydd a diddorol ar gyfer mis Medi. Gallwch edrych ar y wefan neu godi'r ffon am fanylion pellach - www.campwsgartholwg.org.uk neu 01443 219589
Gweithgareddau
Arddangosfa Paul Robeson - Mai 4-18
Diwrnod dathlu diwylliant - Mai 18, 2 pm
Proud Valley
Arddangosfa Amrywiaeth, Hanes ac Etifeddiaeth - Mai 24-Mehefin 30
Ffilm i blant, Cars - Mai 30, 10.30 am
Ffilm, Shooting Dogs - Mai 31, 2 pm
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |