成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Y Dysgwyr ar eu taith yng Nglanllyn Dysgwyr Morgannwg
Mehefin 2009
Mae'r mis diwetha yma wedi hedfan gyda nifer o ddigwyddiadau hen a newydd wedi cymryd lle.
Cyfarfu Clwb Cinio Penybont ddydd Mercher 22ain o Ebrill ac eto 13eg o Fai. Dyma'r un ola ym mwyty'r coleg tan yr Hydref ond dros yr haf bydd cyfle i gwrdd yn y Toby Inn, Heol y De/South Road, Penybont ar y trydydd dydd Mercher yn y mis fel arfer am 12 o'r gloch.

Unwaith eto roedd caffi Just Because yn orlawn ddydd Mawrth 5 Mai - mae'n amlwg nawr bod cael pryd a chlonc yma ar ddydd Mawrth cynta bob mis yn denu nifer o ddysgwyr.

Roedd dau ddigwyddiad newydd hefyd gyda ni yn ystod y mis diwetha. Ddydd Iau 30 Ebrill sefydlwyd clwb darllen safon Canolradd/Uwch yn llyfrgell Coed Parc, Penybont dan arweiniad Geoff Fisher, llyfrgellydd Abercynffig. Roedd saith wedi dod i'r cyfarfod cynta a gobeithio bydd hwn yn mynd o nerth i nerth ac yn gyfle i siarad a thrafod yn ogystal 芒 darllen nofelau cyfoes. Bydd hwn yn cwrdd bob pythefnos yn rheolaidd.

Ddydd Gwener 1af o Fai daeth pymtheg o ddysgwyr i Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon yn Aberd芒r am Baned a Chlonc. Mae dysgwyr yr ardal wedi bod yn gofyn ers tro am weithgaredd anffurfiol yn yr ardal ac roedd yn hyfryd gweld cymaint wedi taro draw. Bydd hwn yn ddigwyddiad misol nawr ar y prynhawn Gwener cynta ym mhob mis.

Ddydd Sadwrn 9 Mai cafwyd taith gerdded lwyddiannus iawn dan arweiniad Alex Marshal yn ardal Pen y Fai, ar gyrion Penybont.

Yr un penwythnos aeth gr诺p ohonon ni i wersyll Glanllyn ac er gwaetha'r tywydd llwyddwyd i gael amser pleserus a phrysur iawn gan ddechrau gyda thaith mewn cwch ar draws llyn Tegid brynhawn Gwener yn y gwynt a'r glaw.

Ddydd Sadwrn y 9fed o Fai roedd rownd gynta cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn cael ei chynnal yn Nolgellau. Roedd dau o ddysgwyr Morgannwg yn cystadlu ac roedd pwyllgor Dysgwyr yr Eisteddfod wedi trefnu nifer o weithgareddau yn y dref yn ystod y dydd. Aethon ni ar daith gerdded o amgylch Dolgellau, i weithdy telyn diddorol yn Nh欧 Siamas yn y dre ac fe gawson ni gyfle i ganu a dawnsio gwerin cyn dychwelyd i Lanllyn ar ddiwedd y dydd.

Ar 么l swper blasus aethon ni draw i Lanuwchllyn i gael ychydig o hanes O.M. Edwards, a gweld Coed y Pry ei gartre cyn mynd am ddiod i dafarn yr Eryrod.

Ar 么l bore o weithgareddau yng Nglanllyn fore dydd Sul roedd yn bryd dechrau'r daith adref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy