成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Ystad Llwynwermwd ger Llanymddyfri. Atgofion Cartref newydd y Tywysog
Chwefror 2007
Pan glywyd y newyddion bod Charles a Camilla yn bwriadu prynu Llwynwermwd ger Llanymddyfri 'roedd gan bentre' Pentyrch dipyn o ddiddordeb. Dyma'r hanes yng ngeiriau Eiry Rochford ei hunan.
Tipyn o sioc, n么l ym mis Tachwedd, oedd clywed fod y Tywysog Charles wedi prynu Llwynwermwd. Pam? Wel, dyma oedd cartref fy mam cyn iddi briodi fy nhad a symud lawr i ardal Trefin a Mathri yn Sir Benfro i fod yn wraig y Mans.

I Lwynwermwd arferai fy mrawd a minne fynd i dreulio cyfnod yn ystod gwyliau'r haf pan yn blant ac aros gyda Wncwl Davy, brawd mam, ac Anti Ray a'n cefnither, Lonw. D.T. Lewis oedd enw Wncwl Davy a fe oedd un o sylfaenwyr Undeb Amaethwyr Cymru. Wncwl Davy datblygodd y dileit ffermio yn fy mrawd, ac yn ei dro, tyfodd yntau i fod yn ffermwr llwyddiannus yng ngorllewin Cymru.

Mae Mefin fy mrawd, yn dal i gofio enwau'r perci a oedd yn berchen i Lwynwermwd a sut yr arferai e' ac Wncwl Davy fynd lawr i'r afon liw nos i ddal pysgod. Do, fe ddysgodd lawer o dan ddylanwad Wncwl Davy! 'Doeddwn i ddim yn treulio cymaint o amser yno a'm brawd gan fod chwaer mam, Anti Evelyn, yn byw yr ochr arall i Lanymddyfri ac felly fel arfer, treuliwn noson neu ddwy yn Llwynwermwd a gweddill yr amser ar fferm y Garth.

Tra yn Llwynwermwd, beth bynnag, hoffwn fynd lawr i adfeilion yr hen blas nid nepell o'r ffermdy a breuddwydio fy mod yn dywysoges. Bryd arall 'roeddwn yn mynd yno i chwilio am drysor cudd. Pwy feddylie bod yr hen Charles nawr yn teyrnasu yno! I mi ffermdy Cymreig cyffredin oedd cartref Wncwl Davy, Anti Ray a Lonw ond erbyn heddiw mae'n gartref i'r teulu brenhinol!

Gadewch i mi ddweud braidd yn ymffrostgar - yn yr iaith fain mae arna'i ofn - "I've sat on the throne of the heir to the throne!" Pwy feddylie?'

gan Eiry Rochford o Bentyrch


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy