Defnyddia acrylic a dyfrliw, ond ei hoff gyfrwng yw olew. Arddangoswyd ei waith yn eang o Landeilo i Vermont. Oherwydd amgylchiadau teuluol, trist bu rhaid iddo adael yr ysgol yn 16 oed ac anghofio unrhyw uchelgais i barhau gyda'i addysg. Am ugain mlynedd bu'n gweithio yn y diwydiant adeiladu gan dreulio tair blynedd a hanner yn Llundain. Drwy'r cyfnod hwn, parhaodd ei gariad at gelf.
'Hawdd cynnau t芒n ar hen aelwyd' meddai'r ddihareb. Ym 1994 cafodd Andrew gyfle i fynd i arddangosfa o waith arlunwyr bywyd gwyllt ymysg y gorau ym Mhrydain fel David Shepherd, Owen Williams a Terence Lambert. O ganlyniad i drafodaeth gyda'r arlunwyr penderfynodd ail afael yn ei ddiddordeb. Er na chafodd fawr o addysg ffurfiol, dysgodd drwy ddarllen ac astudio ar ei liwt ei hun ac, wrth gwrs, ymarfer y grefft.
Daeth y trobwynt yn y flwyddyn 2000. Penderfynodd fod yn arlunydd proffesiynol, llawn amser ac o'i stiwdio yn Nheras Tywi, Ffairfach ynghyd 芒 chymorth ei wefan llwyddodd eisoes i wneud enw iddo'i hun yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n arddangos a gwerthu ei waith mewn tair galeri yng Nghymru, dwy yn Lloegr ac un yn Vermont, UDA.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf bu Andrew yn gweithio ar brosiect y Cynulliad Cymreig 'Dynamo', sy'n golygu cwrdd 芒 disgyblion ysgol a myfyrwyr coleg fel model o entrepreneur sydd wedi llwyddo mewn byd busnes. Caiff bleser mawr o'r prosiect ac o'r cyfle i helpu'r genhedlaeth nesaf i fagu hyder i fentro.
Bu Andrew yn byw yn ardal Llandeilo erioed ar wahan i'r tair blynedd a hanner yn Llundain. Ganed ef yn Llandeilo yn fab i Peter a Rita Evans. Yn dilyn y brofedigaeth o golli ei rieni symudodd i fyw at ei dad-cu a'i fam-gu, Fred a Sarah Jones, i Bailey 成人快手 Farm yng Ngwynfe.
Portread i'w barhau yn rhifyn Rhagfyr o'r Lloffwr
Mae rhai o luniau Andrew Evans i'w gweld yn rhifyn Tachwedd 2007 o'r Lloffwr.
|