成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Neuadd bentre Llanarthne Neuadd newydd Llanarthne
Mai 2008
Rhoddwyd arian i bentrefwyr Llanarthne i agor neuadd drigain mlynedd yn 么l. Ym mis Ebrill eleni, gwireddwyd y freuddwyd honno.

Wedi cyfnod o gynllunio a chasglu arian a phwyllgora, y mae cael neuadd bentre newydd yn gaffaeliad mawr i gymuned.

Yn achos pentref Llanarthne, rhoddwyd yr arian ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd a bu'n rhaid aros 60 blynedd a mwy cyn gwireddu'r freuddwyd. Agorwyd y neuadd ar Ebrill 18 eleni.

Prin y byddech chi'n adnabod y lle pe byddai gofyn i chi leoli Llanadneu yn nyffryn Tywi. Dyna'r enw ar bentref Llanarthne yn y 12fed ganrif, sef llan ble yr oedd "adneu (rhodd i'w gadw) wedi ei diogelu yn y lloches hon." Yr iaith Wyddeleg a roddodd 'aithne' i ni ac yn y 14eg ganrif ceir " y llan lle mae'r rhodd", sef Llanarthne ein dyddiau ni. Hyn sydd yn cyfrif am bwysigrwydd Eglwys y pentre yn hanes crefydd y canrifoedd, a hynny ar draws ardal eang.

Yn Ionawr 1940, tua blwyddyn wedi cychwyn yr Ail Ryfel Byd, bu farw Elin Gruffydd Jones yn Folkstone, Lloegr, ond un 芒'i gwreiddiau yn Llanarthne. Yn 么l ei hewyllys gadawodd 拢1,500 i bentre Llanarthne, yn benodol ar gyfer codi neuadd i'w defnyddio gan drigolion y pentre. Dyma yn wir bentre'r rhoddion.

Nid oedd modd gweithredu yn 么l ei dymuniad 芒'r wlad yng nghanol y rhyfel. Yr oedd yr Eglwys a'r capel yn hwylus fel mannau cyfarfod ac y mae'n bosibl na theimlwyd yr angen yn y dyddiau hynny am neuadd bentref hyd yn oed pe byddai'r adnoddau ar gael. Ond beth am yr arian? Gofalodd y Comisiwn Elusennau am fuddsoddi'r arian yn ddoeth. Aeth y blynyddoedd heibio a dros y saith degawd diwethaf tyfodd yr arian i 拢187,000.

Yn y blynyddoedd diwethaf yn ogystal, cynyddodd yr awydd am gael neuadd bentref. Yn naturiol bu llawer o waith cynllunio a phwyllgora a threfnu o dan gadeiryddiaeth Ann Davies, Fferm Bremenda. Cyflwynwyd y 4 acer o dir y saif y neuadd arno yn rhodd gan Mrs Mair Davies a'i diweddar 诺r Evan Davies, Cliftonville, er cof am eu merch Margaret Bowen. Yn wir, derbyn y rhodd yma oedd y sbardun cychwynnol. Ychwanegwyd at yr arian pan dderbyniodd y pwyllgor gyfanswm o 拢324, 348 yn gefnogaeth gan y Cyngor Sir o raglen Amcan Un Ewrop, a Rhaglen Gymunedol Llywodraeth y Cynulliad. Hefyd y mae Menter Cwm Gwendraeth wedi cefnogi'r gymuned er mwyn cael y maen i'r wal.

Cyflogwyd adeiladwyr lleol i godi'r neuadd a defnyddir y dechnoleg ddiweddaraf o'i mewn. Mae d诺r o'r afon Tywi yn helpu i gynhesu'r ystafelloedd, yn ogystal 芒'r paneli solar ar y to. Y tu fewn i'r adeilad amlbwrpas y mae dwy ystafell o wahanol faint, cegin fodern a dwy ystafell bwyllgora ac adnoddau ar gyfer gwylio ffilm. Adeilad fodern ymhob ystyr a lle i 200.

Torrwyd y dywarchen gyntaf ar 16 Gorffennaf 2007 ac agorwyd y neuadd ar 18 Ebrill eleni 芒'r gost wedi cynyddu i 拢414,348. Bellach 10 disgybl sydd yn ysgol Llanarthne a chawsant y fraint o dorri'r rhuban a cherdded trwy'r drysau i ddynodi bod y neuadd wedi ei hagor a'r gwesteion a'r pentrefwyr yn dilyn. Wedi canu'r emyn Calon L芒n bendithiwyd y neuadd gan y Parchedig Trebor Lewis, gweinidog Capel y Dd么l. Wedi eitem gan blant yr ysgol, cafwyd cyfraniad gan Gethin James, Troedybryn a gair byr gan Gynghorydd Cymuned Llanarthne Eirian Jenkins a'r ddau Gynghorydd Sir a oedd yn bresennol, Clive Scourfield a Wyn Evans ynghyd 芒 Rhodri Glyn Thomas AC. Wedi'r baned cafwyd Twmpath Dawns i gyfeiliant Jac y Do.

(Dymuna'r Golygydd ddiolch am gymorth Ann Davies wrth lunio'r adroddiad.)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy