成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nia Clwyd Nia Clwyd - "dw i ddim fel Davina!"
Mawrth 2005
Mae'r golofn hon yn gyfle i un o ferched bro Dinefwr ddweud ei dweud bob mis yn Y Lloffwr. Y mis hwn, tro Nia Clwyd, yw hi.

Un o'r pethau sy'n mynd i rhan helaeth iawn o fy amser i ar hyn o bryd yw ceisio arwain a chadw trefn ar Fois y Castell - sy'n dipyn o job ar adegau, credwch fi! Ond, pam arwain c么r o fechgyn yn y lle cynta', meddech chi? Cwestiwn da, ac un y bydda i'n ei ofyn i mi fy hun yn aml!

Mae'r diddordeb a'r awydd i arwain corau yn deillio'n 么l i ddyddiau coleg yn bennaf mae'n si诺r. Tra yn y Brifysgol ym Mangor a thra'n byw yn Neuadd JMJ y daeth y cyfle cyntaf i arwain c么r o unrhyw fath, a hynny yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. Doedd hynny ddim y profiad rhwyddaf dan haul - doeddech chi byth yn si诺r pwy fyddai'n ymddangos o'ch blaen ar y llwyfan nac ym mha gyflwr y byddai rhai ohonyn nhw! Ond dyna ni, roedd yn dipyn o sbort a'r gystadleuaeth ffyrnig rhwng Bangor ac Aberystwyth yn ychwanegu at yr hwyl a'r cyffro!

Yn ystod fy nhrydedd blwyddyn ym Mangor fe ges i'r cyfle i fynd 芒 ch么r merched JMJ i'r 糯yl Gerdd Dant ym Mhwllheli i gystadlu ar y C么r Gwerin. Roedd hwn yn brofiad gwahanol iawn a phawb yn cymryd pethau o ddifri y tro yma. Freuddwydiais i erioed am lwyddiant y diwrnod hwnnw, ond er mawr syndod i mi, ni ddaeth i'r brig. Cofiwch chi, efallai ei bod hi wedi bod o fantais fod gan y beirniaid a minnau yr un chwaeth mewn dillad ar y diwrnod arbennig hwnnw!!

Un o'r pethau syn rhoi'r boddhad mwyaf i mi yn sicr yw hyfforddi plant a phobl ifanc i ganu. Does dim dwywaith eu bod nhw'n llawer haws i'w trin na chriw o ddynion ac yn llwyddo i ddysgu eu gwaith mewn hanner yr amser! Dydy mynd draw i Ysgol Teilo Sant neu i Ysgol Bryn Tawe i ddysgu canu ddim yn waith!

Yn ystod fy mlynyddoedd cyntaf yng Nghaerfyrddin fe f没m yn ffodus iawn o gael y cyfle i gynorthwyo Islwyn Evans yng Nghastellnewydd Emlyn ambell i fore Sadwrn yn ystod dyddiau cynnar Ysgol Gerdd Ceredigion. Fe wnes i elwa'n fawr o'r profiad a dysgu llawer wrth wylio Islwyn wrth ei waith. Mae gen i barch ac edmygedd mawr tuag ato fel arweinydd corawl ac mae'r cyfle mae e'n ei gynnig i blant a phobl ifanc ei ardal yn amhrisiadwy. Oni fyddai hi'n braf gweld rhywbeth tebyg yn cael ei sefydlu yma ym Mro Dinefwr? Does dim dwywaith bod gennym ninnau hefyd blant a phobl ifanc talentog iawn a allai elwa o brofiadau tebyg.

Wel, mae'n well i mi ddod yn 么l at Fois y Castell mae'n si诺r. Fel mae'r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, canlyniad Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996 ydy'r c么r. Rydw i bob amser wedi bod yn berson sy'n hoffi her a sialens newydd, a phan ofynnwyd i mi gan Gareth Vaughan i fynd ati i sefydlu c么r ar gyfer yr Eisteddfod, wnes i ddim pendroni'n hir. A bron i naw mlynedd yn ddiweddarach rydw i'n falch i mi wneud y penderfyniad hwnnw. Mae'n waith caled ar adegau ac yn dreth ar amynedd ambell waith; ond pan fyddant ar eu gorau mae 'na rhyw wefr arbennig i'w deimlo a'r gwaith caled yn talu ffordd.

Does dim dwywaith eu bod nhw'n griw o adar ond maen nhw'n griw triw iawn hefyd, yn ffrindiau da ac yn llawn sbri; a nac ydw, wir yr, dydw i ddim byd tebyg i Davina!!!

dan ofal Prosiect Papurau Bro


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy