Gwelir yr 诺yl arbennig hon yn un bwysig i'r dre ac i Sir G芒r. Disgwylir 242 o gystadleuwyr i ymgiprys - o wledydd fel America, Awstralia ac Ewrop. Dyma'r digwyddiad pwysicaf yng nghalendr Cymdeithas C诺n Defaid Gwledydd Prydain ac fe'i llwyfennir yn Llandeilo yn dilyn llwyddiant aruthrol y Treialon Rhyngwladol a gynhaliwyd yng Nghelli Aur yn 2004.
"Y mae'r treialon hyn yn bwysicach hyd yn oed na rhai 2004," meddai Meirion Owen, y trefnydd. "Mae 'na gymaint o wledydd yn cymryd rhan ac y mae'n rhoi cyfle i dre Llandeilo a Sir G芒r a Chymru ddangos i'r byd beth allwn ni ei gynnig. Eisoes mae clerc Cyngor Tre Llandeilo, Roger Phillips a'r cynghorwyr wedi bod mewn trafodaethau gyda ni i sicrhau y bydd croeso tywysogaidd i'r cystadleuwyr a'r ymwelwyr."
Ar Barc Dinefwr y cynhelir y treialon dros gyfnod o dridiau rhwng 11 a 14 o Fedi ac fe fydd pencampwr y byd yn cael ei goroni ar y nos Sul. Yn ystod tridiau'r cystadlu bydd modd i ymwelwyr fwynhau G诺yI Fwyd a Chefngwlad gyda phob math o atyniadau. Ymhlith y s锚r i ymddangos fydd Dudley, y cogydd enwog, a Huw "Ffash" o gwmni Tinopolis - y ddau yn rhan o ddigwyddiadau'r Babell Fawr a fydd yn arddangos bwydydd a chrefftau Cymru i'r byd.
"Rydym wedi bod yn ffodus i gael nawdd sylweddol gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, Tesco a nifer o gwmn茂au eraill - heb anghofio em prif noddwr Land Rover," medd Meirion. "Pan wahoddwyd y Treialon Byd cyntaf i'r Bala cafwyd gorymdaith liwgar a chyffrous drwy'r dre ac rwy'n sicr y cawn weld rhywbeth tebyg yn Llandeilo. "Cymro, Aled Owen, oedd y Pencampwr Byd cyntaf a braf fyddai cael pencampwr o Gymru eto yn 2008. Pwy bynnag fydd yn ennill rwy'n ffyddiog y byddwn ni wedi gwneud ein gore i drefnu un o'r ymrysonfeydd mwyaf a'r ore a welwyd erioed gan obeithio y bydd pobol Llandeilo, Sir G芒r a thu hwnt yn ein cefnogi. Nid yn aml y mae'r byd yn dod mor agos atom ni."
|