成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr Chwarter Canrif o Loffa ym Mro Dinefwr
Rhagfyr 2003
Wrth i chi ddarllen yr erthygl hon, mae'r Lloffwr yn dathlu cyrraedd dwy garreg filltir arbennig iawn, sef 25 mlynedd ers ei sefydlu a chyhoeddiad rhifyn 250.

Wrth i ni ddathlu llwyddiant ein papur bro ar ddiwedd blwyddyn fel hyn, gallwn edrych ymlaen at bennod gyffrous a newydd yn ei hanes pan y bydd yn cael ei ail-lansio ar ei newydd wedd yn y flwyddyn newydd.

Ond cyn edrych mlaen, cymerwn funud i edrych n么l ar rai o gerrig milltir Y Lloffwr yn y gorffennol ers iddo gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn Nhachwedd 1978.

Dr Gwynfor Evans, oedd yn byw ger Llangadog ar y pryd, a gydnabyddir fel y prif lais dros sefydlu'r papur bro hwn yn y lle cyntaf. Roedd yntau'n dymuno gweld cynnydd yn y Gymraeg roedd trigolion Bro Dinefwr yn ei ddarllen, er mwyn cynnal iaith a chyfoeth diwylliant Cymru. Fe wnaeth ei ysgogiad arwain at gyfarfod a gynhaliwyd gan griw brwdfrydig yn Neuadd Llanwrda, a chyn pen dim roedd swyddogion y papur bro newydd yn eu lle - John Jenkins yn Olygydd a'r Parchedig R Gwynedd Jones yn Is-Olygydd.

Fe benodwyd Bob Roberts yn Gadeirydd, Dafydd Ifans yn Ysgrifennydd a Heulwen Jones yn deipydd i'r papur ac ymhen rhai misoedd, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o bapur bro Y Lloffwr ym mis Tachwedd 1978. I ddathlu cyhoeddi'r rhifyn cyntaf, cyhoeddwyd englyn arbennig gan W Leslie Richards er mwyn croesawu dyfodiad y papur bro newydd:

Hir oes foed i hwn a chroeso- helaeth
Ar aelwyd pob Cymro;
Ein nodded rhoddwn iddo -
Hwre brwd i'n papur bro!

Roedd amrywiaeth o erthyglau diddorol yn y rhifyn cyntaf hwnnw gan gynnwys erthygl am Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ar y dudalen flaen. O fewn y cloriau cafwyd colofn Pop Pop, Colofn y Dysgwyr, Colofn Llyfrau, Cornel y Naturiaethwyr, Tudalen y Plant, Tudalen y Merched a cholofn Byd Chwaraeon, yn ogystal 芒 thudalennau o newyddion bro ac erthyglau diddorol eraill. Hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hyn roedd 16 o dudalennau yn Y Lloffwr a'r pris bryd hynny oedd 10c!

Degawd yn ddiweddarach, ym mis Rhagfyr 1988, cyhoeddwyd y canfed rhifyn ac roedd y papur wedi tyfu i fod yn ugain tudalen o hyd. Y brif stori ar dudalen flaen y rhifyn arbennig hwn oedd erthygl am y ffilm Smithfield oedd wedi cythruddo mudiad y Ffermwyr Ifanc yn Sir G芒r. Handel Jones oedd Golygydd y papur erbyn hyn a Mansel Charles yn Gadeirydd. Roedd nifer o'r rheini oedd yn gyfrifol am sefydlu'r papur ym 1978 yn dal i fod 芒 chysylltiad cryf ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac yn rhan annatod o'i ddatblygiad parhaol.

Fe ddaeth Y Lloffwr iw oed yn 21 ym 1999, ac i ddathlu'r achlysur hwn fe gyhoeddwyd casgliad o rhai o'r straeon mwyaf diddorol a ymddangosodd yn y 200 o rifynnau ers 1978. O dan oruchwyliaeth Bob Roberts, cyhoeddwyd Lloffion y Lloffwr oedd yn gofnod gwerthfawr o'r amrywiaeth eang o straeon a gafodd sylw yn nhudalennau Y Lloffwr dros y 21 mlynedd ddiwethaf.

Yn erthyglau, penillion, cyfweliadau a straeon, roedd y llyfryn bach hwn yn adlewyrchiad teg o bobol a bywyd ym Mro Dinefwr.

Erbyn hyn, dyma ni wedi cyrraedd carreg filltir nodedig iawn yn hanes ein papur bro wrth i'r Lloffwr ddathlu Chwarter Canrif o ledaenu gwybodaeth ar draws yr ardal a diddori'r darllenwyr. Llongyfarchiadau calonnog i'r Lloffwr ac i bawb sydd wedi ychwanegu at ei lwyddiant dros y 25 mlynedd ddiwethaf, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at Chwarter Canrif arall a mwy o wasanaethu'r ardal ai phobol yn y dyfodol.

gan Aled Vaughan
Prosiect Papurau Bro

Cyfarchion i'r Lloffwr
"Mae'n anodd credu bod Y Lloffwr bellach yn dathlu 25 mlynedd o lwyddiant o greu a chofnodi hanes yr ardal. Mae ein diolch yn fawr i Gwynfor yn y lle cyntaf am ein ysgogi i fynd ati i gychwyn y papur ac hefyd i'r llu o bobol ers y dyddiau cynnar hynny sydd wedi gwneud yn siwr ei fod wedi parhau. Gobeithio y bydd y dyfodol yr un mor llwyddiannus. Pob dymuniad da i'r pum mlynedd ar hugain nesaf."
Bob Roberts

"Y mae cyfraniad Y Lloffwr i Fro Dinefwr yn un arbennig iawn. Y mae wedi sicrhau bod llu o bobol nad arferai ddarllen Cymraeg yn gwneud hynny'n gyson. Sicrhaodd hefyd bod nifer o bynciau pwysig yn cael eu dadlenni au trafod gan y cyhoedd. Boed i ddylanwad creadigol y papur barhau am ddegawdau i'r dyfodol, a diolch i'r gwirfoddolwyr am gyflawni gwaith ardderchog."
Dr Gwynfor Evans

Y Lloffwr
Blas yd o gae y cynhaea - a gwres
Ei grasu sydd yma;
Byw o eiriau yw bara
Toreth dwym y torthau da.

Cyngh. Eirwyn Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy