成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Jack the Ripper a Chapel Newydd Llandeilo
Mehefin 2005
A oes yna gysylltiad rhwng y llofrudd Jack the Ripper a Chapel Newydd Llandeilo? W. Dyfrig Davies bu'n ymchwilio.
Dyma i chi ddwy ffaith:yn gyntaf ym 1888 yn ardal yr 'East-end' o Lundain, llofruddiwyd pum menyw mewn modd erchyll iawn. Mae'r llofruddiaethau yma yn cael eu hadnabod fel gwaith "Jack the Ripper", er na ddedfrydwyd neb am y gwaith dieflig yma.

Yr ail ffaith - ar 26 Awst, 1901 gosodwyd carreg sylfaen Capel Newydd Llandeilo yn ei lle a hynny gan neb llai na Syr John Williams (1840-1926), llawfeddyg enwog iawn. Ei frawd Nathaniel Williams, Glandulais a roddodd y tir i adeiladu'r capel. Y fam eglwys oedd y Tabernacl, Ffair- fach, ond aeth yr addoldy hwnnw yn rhy fach a rhaid oedd codi adeilad newydd yn nhref Llandeilo.

Dwy ffaith gyferbyniol ym mhob ystyr o'r gair. Ie cyferbyniol i eithafiaeth ar y olwg gyntaf. Ond mae Syr John Williams bellach yn un o'r rhai sydd o dan amheuaeth o fod y llofrudd hwnnw a gododd arswyd ar wragedd y stryd yn ardal Whitechapel o Lundain bron cant ac ugain o flynyddoedd yn 么l.

Wrth olygu llyfryn Eleri Davies ar gyfer dathlu canmlwyddiant achos y Capel Newydd, yn 2002, fe ddechreues i ymchwilio i hanes Syr John Williams. Roedd yn berson hynod o ddiddorol gan fod ei wreiddiau'n lleol, yn fab i David ac Elinor Williams, fferm Blaen Llynant, Llangadog. Roedd yn un o bedwar brawd. Bu farw David y mab hynaf cyn ei fod yn 30 mlwydd oed, aeth Morgan yr ail fab i'r Amerig gan farw yno yn 诺r cyfoethog iawn, aeth John yn feddyg ac arhosodd Nathaniel gartref i ffermio. Bu farw'r tad yn ifanc yn 36 mlwydd oed. Y fam gadwodd i ffermio ac fe gyhoeddwyd llyfryn gan Nathaniel yn deyrnged i'w fam. Mae'n amlwg fod gan Elinor Williams dipyn yn ei phen a'r gallu i ffermio'n llwyddiannus er gwaethaf, mae'n sicr, rhagfarn yr oes yn erbyn gwragedd yn arwain. Yn ddiddorol hefyd mi roddodd fenthyg cart a cheffyl a gweision a rhyddhau ei mab hynaf o waith y fferm i helpu i godi Capel Maen n么l yn 1852.

I'r weinidogaeth roedd Elinor am i'w mab John i fynd, ond aeth i Abertawe i weithio fel prentis i feddyg. Wedyn aeth i Glasgow i astudio i fod yn feddyg ac ymlaen wedyn i Ysbyty Coleg y Brifysgol, yn Gower Street yn Llundain i gwblhau ei gwrs. Daeth n么l yn feddyg cyffredinol i Abertawe gan briodi 芒 merch i ddiwydiannwr - Lizzy Hughes. Fel yn hanes ei frodyr i gyd - ni chafodd John blentyn, a bu hyn yn boendod mawr iddo. Ar 么l ond ychydig flynyddoedd yn Abertawe cafodd swydd uchel yn yr ysbyty lle bu'n hyfforddi. Agorodd bractis preifat yn Harley Street. Roedd yn weithiwr caled iawn gan arbenigo ym maes Obstetrics a Gynacoleg. Yn wir daeth yn Llywydd The Royal Society of Obstetricians a Gynaecologists.

Ei arwr mawr a'i fentor oedd Dr Joseph Lister, a gwnaeth yntau hefyd arwain ym maes glanweithdra gan sicrhau fod man cynnal unrhyw lawfeddygaeth yn l芒n a 'sterile' a hefyd y dylid defnyddio antiseptics wrth drin claf ar 么l llawdriniaeth. Golygodd hyn yn syml gyda Dr John Williams, fod posib i wragedd fyw ar 么l llawdriniaeth. Oherwydd ei lwyddiant - ef fu'n gyfrifol am eni plant y Dywysoges Beatrice (merch y Frenhines Victoria). Daeth Syr John Williams yn feddyg brenhinol ac yn gyfaill agos i Victoria a'r teulu.

Hwyrach mai ei gyfraniad mwyaf heb os, oedd casglu llawysgrifau a llyfrau Cymraeg. Erbyn tua 1905 roedd ganddo y casgliad preifat pwysicaf o bell ffordd. Dyna pam y bu iddo chwarae rhan mor flaenllaw yn sicrhau siarter i gael Llyfrgell Genedlaethol i Gymru, ac ef yn anad neb arall a fynnodd mai yn Aberystwyth y dylai honno fod ac nid yng Nghaerdydd lle mae'r Amgueddfa Genedlaethol. Fe fyddwn yn dathlu canmlwyddiant y siarter ar gyfer y sefydliadau hynny yn 2007.

Mewn erthygl fer fel hon, nid yw'n bosib gwneud cyfiawnder gyda rhywun fel Syr John Williams, ond fe gyhoeddwyd yn ddiweddar lyfr gan Tony Williams o Abertawe yn honni mai ei berthynas o bell (roedd cefnder Syr John Williams - John arall fel mae'n digwydd, yn hen hen ddatcu iddo), oedd Jack the Ripper. Yn rhyfedd iawn, n么l yn 2002 roedd hyn wedi croesi fy meddwl innau. Pam? Wel roedd y llofrudd, yn 么l tystiolaeth yr heddlu, yn meddu ar wybodaeth llawfeddygol arbenigol. Ar 么l lladd y merched, byddai yn perfformio math o driniaeth lawfeddygol ar y merched - fel petai'n ymchwilio i faes obstetrics.

Wrth ddarllen yr hanes - sef hanes Jack the Ripper, astudiaeth a elwir yn Ripperology erbyn hyn, fe ddaeth yn amlwg mai un o bron i wythdeg o bobl bosib yw Syr John Williams. Oes mae bron i bedwar ugain o bobl yn cael eu henwi a'u hamau o'r erchyllterau yma. Yn wir mae dau feddyg arall o Gymru ymhlith y rhestr! Ni wnes i ddilyn ymhellach yr hanes ar y pryd.

Felly pan ymddangosodd llyfr Tony Williams "Uncle Jack" wedi ei gyhoeddi gan Orion Books, tua mis yn 么l, wel rhaid oedd ei ddarllen. Er nad wyf am drafod y llyfr na dweud gormod am 'dystiolaeth' Tony Williams yn erbyn Syr John Williams, digon yw dweud ei fod yn gallu profi yn weddol sicr fod Syr John wedi bod yn ardal Whitechapel yn 1888, ei fod 芒 motif cryf yn codi yn bennaf o'i awydd i wneud ymchwiliadau llawfeddygol o'r math, ei fod am resymau personol hefyd eisiau gwybod pam nad oedd rhai menywod yn gallu beichiogi, a'i fod yn 'adnabod' y bumed wraig a gafodd ei lladd - sef merch ifanc bert o'r enw Mary Kelly. Mae tipyn mwy na hynny yn y llyfr wrth reswm, er nad yw pob dim yn dal d诺r yn fy marn i.

Ai Syr John Williams, un o garedigion y genedl drwy y ei gasgliad o lawysgrifau a llyfrau a'i rodd o arian sylweddol i'r Llyfrgell Genedlaethol, hefyd yr un a wnaeth osod sylfaen a helpu talu am godi'r capel lle rydvm fel teulu'n addoli erbyn hyn, - oedd yr un a wnaeth lofruddio pum putain yn Llundain gan ddiflannu i wyll y nos? Y gwir plaen yw na fydd byth modd profi naill ffordd na'r llall.

Mae Tony Williams serch hynny wedi llwyddo i ddwyn n么l i sylw'r byd gymeriad hynod iawn, dyn galluog a pherson hael iawn i'w genedl ..ond efallai hefyd yn un 芒 mwy nag un ochr i'w gymeriad!

W. Dyfrig Davies


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy