成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Atsain Llwyddiant Atsain
Hydref 2004
Erys dydd Iau, 5 Awst yn y cof am flynyddoedd i ddod fel un o uchafbwyntiau Haf 2004.
Dyma'r diwrnod yr aeth llond bws o aelodau petrusgar C么r merched Atsain, Llandeilo (gwelir rhai ohonynt yn y llun) ar y daith hir i Gasnewydd i gystadlu yn y gystadleuaeth i gorau merched yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wedi cyrraedd y ddinas, aethpwyd yn syth i Gapel Mynydd Seion, Hillside i gael ymarfer byr, cyn symud ymlaen i fwrlwm y maes, cofrestru, siarad 芒'r ymchwilwyr teledu a gosod ein dillad (newydd!) yn yr unig ystafell wisgo oedd ar 么l, cyn cael ein heidio i ffwrdd i gael cyfweliad ar gyfer S4C digidol gyda Sh芒n Cothi. Yna, mewn dim o amser roeddem ar y llwyfan ar un o ddiwrnodau poetha'r haf -ac Owain ein arweinydd yn ein siarsio i "fwynhau'r profiad!"

Digwyddodd rhywbeth hudol ar y llwyfan y diwrnod hwnnw - roedd pob un ohonom yn benderfynol i roi o'n gorau ac aeth hyd yn oed y darn gosod llafurus (Salm 23, Schubert) yn rhyfeddol o dda! Daeth pawb o'r llwyfan yn hapus 芒'r perfformiad ond anodd oedd gwybod beth i'w ddisgwyl gyda saith o gorau safonol iawn yn y gystadleuaeth.

Wrth i'r feirniadaeth nes谩u, roedd sibrydion cadarnhaol yn dechrau ein cyrraedd gan rai oedd yn 'gwybod eu stwff' ond ni feiddiwyd codi gobeithion. Pan ddechreuodd y beirniad Gwyn L. Williams draddodi'r feirniadaeth roedd hi'n amlwg ein bod wedi plesio ond roedd hi'n foment a hanner pan gyhoeddwyd ein bod wedi dod yn ail gyda Ch么r Merched Canna, Caerdydd yn gyntaf a Ch么r Cofnod, Caernarfon yn drydydd. Ffrwydrodd cefn y pafiliwn wrth i ni glywed y newyddion da a bu'n rhaid i'r beirniad, druan gymryd saib go hir cyn cyhoeddi enw'r buddugol. Allech chi dyngu ein bod wedi ennill y Loteri!

Ni fyddai'r llwyddiant wedi dod i'n rhan heblaw am ymroddiad aelodau'r c么r ond yn bennaf rhaid diolch o galon i Owain Gruffydd ein arweinydd amyneddgar ac egn茂ol am ei holl waith trylwyr yn ein paratoi ac i'r cyfeilyddion Rhiannon Griffiths a Gareth Wyn Thomas am roi o'u hamser i'n cynorthwyo. Diolch hefyd i nifer o bobl leol am ddod i'n cefnogi yn y pafiliwn. Roedd hi'n braf clywed eich cefnogaeth wrth adael y llwyfan! Oedd, roedd 5 Awst yn un o ddiwrnodau brafia'r haf ym mhob ystyr.

MVJ


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy