Yr Awdur : Nina Bawden Pan oedd Nina Bawden yn blentyn yn Llundain yn ystod y rhyfel cafodd ei hanfon fel evacuee i dde Cymru. Wedyn ar 么l dyddiau ysgol ac astudio yng Ngholeg Somerville yn Rhydychen (yn yr un flwyddyn 芒 Margaret Thatcher!), dechreuodd ysgrifennu.Mae'n ysgrifennu nofelau ar gyfer oedolion a phlant. Yn wir daeth ar restr fer Gwobr Booker am ei nofel 'Family Money' ac enillodd Wobr Guradian am ffuglen i blant yn 1976 am 'The Peppermint Pig'. Yn 1973 yr ysgrifennodd 'Carrie's War', ac er ei fod yn tynnu ar ei phrofiad hi pan oedd yn blentyn, mae dychymyg yr awdures ar waith yma hefyd. Yn 2002 cafodd Nina Bawden ei brifo yn ddifrifol yn namwain tr锚n Potter's Bar. Fe laddwyd ei gwr Austen Kark, cyn bennaeth World Service y 成人快手, yn y drychineb. Ers hynny mae hi yn gyson yn cwestiynu polisi rheilffordd y Llywodraeth. Carrie's War: Y nofel. Cyhoeddwyd y nofel hon yn 1973 ac ers hynny mae wedi bod yn ffefryn gan genedlaethau o ddisgyblion ysgol.Hanes Carrie a'i brawd Nick sydd yma. Maen nhw'n cael eu hanfon i dref lofaol yng Nghymru i aros gyda Mr Evans, y groser. Bwli go iawn yw Mr Evans, ond mae'r plant yn dod i adnabod ei chwaer sef Anti Lou. Cymeriad pwysig arall y mae'r plant yn dod ar ei thraws yw Hepzibah Green sy'n cadw ty - Druid's Bottom. Ac yma mae'r antur yn dechrau. Yn yr addasiad ar gyfer y teledu mae Keeley Fawcett yn chwarae rhan Carrie, a Pauline Quirk - rhan Hepzibah. Mae posib gwrando ar gyfweliad gyda'r awdures Nina Bawden ar safle gwe y 成人快手. Pauline Quirk : Yr actoresGanwyd hi yn 1959 yn Llundain. Mae'n briod gyda dau o blant. Dechreuodd actio ar 'Dixon of Dock Green' pan oedd ond yn 10 oed. Yn 16 oed roedd ganddi ei rhaglen ei hun - rhaglen sgwrsio. Mae ei rhestr o berfformiadau yn faith iawn, ond hwyrach y mae fwya enwog i bawb fel Sharon yn y gyfres deledu 'Birds of a Feather'. Profiad disgyblion Ysgol Gymraeg Teilo Sant Ar gyfer y cynhyrchiad hwn cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Teilo Sant gyfle i ymddangos yn y cefndir. Nid yn unig y bu iddyn nhw gael gwisg o'r cyfnod ond hefyd, bu rhaid defnyddio colur a newid steil eu gwalltiau. Edrychwch am wynebau cyfarwydd disgyblion yr ysgol yn y darllediad! Os oes gan rai o ddarllenwyr Y Lloffwr atgofion neu luniau o'r evacuees yn Llandeilo - cysylltwch 芒'r Lloffwr oherwydd fe fyddai'n gwneud erthygl ddifyr iawn.
|